Canllaw i'r Mynegeion Genedigaethau
- Pa ardaloedd sydd yn y mynegeion?
- Pa wybodaeth sydd yn y mynegeion?
- Sut mae archebu tystysgrif genedigaeth?
- Gaf i weld y cofnodion gwreiddiol?
- Pam fod y cyfeirnodau yn wahanol i'r mynegeion genedigaethau cenedlaethol?
- Pam na allaf i ddod o hyd i enedigaeth yn y mynegeion?
- Beth os mabwysiadwyd y plentyn?
- Beth ddylwn i wneud os gwelaf wall yn y mynegeion?
Yn ôl
1. Pa ardaloedd sydd yn y mynegeion?
Ein nod maes o law yw cynnwys genedigaethau a gofrestrwyd yng Ngogledd Cymru rhwng 1837 a 1950.
Erbyn hyn mae'r cofnodion hyn yn cael eu dal mewn nifer o wahanol swyddfeydd cofrestru ac nid yw'r cyfan ohonynt yng nghronfa ddata GPM Gogledd Cymru eto.
At ddibenion cofrestru genedigaethau, rhannwyd Gogledd Cymru yn ddwsinau o Isranbarthau Cofrestru. Mae rh estr lawn o'r Isranbarthau sydd yn y gronfa ddata hyd yma i'w gweld ar y dudalen Cwmpas y Mynegeion Genedigaethau, sydd hefyd yn dangos pa flynyddoedd o'r cofnodion sydd yn y mynegai.
Oherwydd bod cyfres o gofnodion ar wahân ar gyfer pob Isranbarth, bydd y dyddiadau cwmpasu yn amrywio. Byd d rhagor o wybodaeth yn cael ei hychwanegu at y gronfa ddata cyn gynted ag y daw i law, a bydd yr ychwanegiadau diw eddaraf i'w gweld ar y dudalen Diweddaraf.
Yn ôl i ddechrau'r dudalen
2. Pa wybodaeth sydd yn y mynegeion?
O'r mynegeion, gallwch ddod i wybod:
(a) Enw'r plentyn, fel sy'n cael ei ddangos yn y cofrestri. Os oedd rhieni'r plentyn yn ddi-briod, a'r ddau yn cael eu henwi ar y dystysgrif, yna dylai'r plentyn ymddangos yn y mynegai o dan y ddau gyfenw. Roedd rhai plant heb gael enwau cyntaf ar adeg y cofrestru, a byddant i'w gweld yn syml fel 'Male' neu 'Female'.
(b) Y Flwyddyn pryd y cofrestrwyd yr enedigaeth. Oherwydd y ffordd y trefnwyd mynegeion y cofrestrydd nid oes modd gwybod yr union flwyddyn, ond bydd honno yn cael ei dangos bob tro y bydd modd gwneud hynny. Cofiwch mai'r flwyddyn yw'r un pan gofrestrwyd y plentyn, ac y gall plentyn a aned ym mis Rhagfyr 1849 beidio cael ei gofrestru hyd Ionawr neu Chwefror 1850, er enghraifft.
(c) Yr Isranbarth lle cofrestrwyd yr enedigaeth, a ddylai fod yr un fath â lle ganed y plentyn. Mae rhestr yn dangos yr isranbarthau a'r blynyddoedd sydd yng nghronfa ddata GPM Gogledd Cymru hyd yma.
(d) Y Swyddfa Gofrestru yng Ngogledd Cymru sydd erbyn hyn yn dal y cofnodion hynny. Bu llawer o newid ffiniau rhwng rhanbarthau ers dechrau cofrestru yn 1837 ac, o ganlyniad, mae llawer o gofnodion wedi cael eu symud o gwmpas.
(e) Cyfeirnod y Cofrestrydd ar gyfer cofnod yr enedigaeth, y gallwch ei ddefnyddio i archebu copi o'r dystysgrif genedigaeth. Mae'n bwysig nodi fod hwn yn berthnasol yn unig i'r swyddfa gofrestru sy'n dal y cofnodion, ac nad yw'n golygu dim yn unrhyw fan arall.
Cofiwch mai prif ddiben y mynegeion hyn, hyd yn ddiweddar, oedd ar gyfer cyflenwi copïau ardystiedig o gofnodion mewn cofrestri. Felly cawsant eu hysgrifennu i gynorthwyo'r cofrestrydd i ddod o hyd i gofnod gyda'r wybodaeth a roddwyd gan y sawl oedd eisiau copi. O ganlyniad, nid ydynt bob amser yn rhoi gwybodaeth mewn ffurf ddelfrydol i haneswyr teulu.
Yn ôl i ddechrau'r dudalen
3. Sut mae archebu tystysgrif genedigaeth?
Os dowch o hyd i gofnod sydd o ddiddordeb i chi, gallwch archebu tystysgrif genedigaeth, sy'n gopi o'r cofnod llawn yn y gofrestr wreiddiol. Fel arfer mae hyn yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
- Dyddiad a man geni
- Enw(au) blaen y plentyn
- Rhyw'r plentyn
- Enw a chyfenw'r tad
- Enw, cyfenw ac enw'r fam cyn priodi
- Galwedigaeth y tad
- Enw a chyfeiriad y person yn cofrestru'r enedigaeth
- Dyddiad cofrestru
Dylid gwneud ceisiadau am gopïau ardystiedig o'r cofnodion genedigaeth o'r mannau canlynol:
Swyddfa | Cyfeiriad | Taliadau i: | Cardiau Credyd |
---|---|---|---|
Bwrdeistref Sirol Conwy |
Y Cofrestrydd Arolygol, Y Swyddfa Gofrestru, Neuadd y Dref, Lloyd Street, Llandudno, Conwy. LL30 2UP |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy | Na |
Sir Ddinbych |
Gwasanaeth Cofrestru Sir Ddinbych, Swyddfa Gofrestru Y Rhyl, Neuadd y Dref, Ffordd Wellington, Y Rhyl LL18 1BA |
Cyngor Sir Ddinbych | Na |
Sir y Fflint |
Y Cofrestrydd Arolygol, Swyddfa Gofrestru Sir y Fflint, Plas Llwynegrin, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 6NR |
Cyngor Sir y Fflint | Na |
Gwynedd Rhanbarth Ardudwy (Blaenau Ffestiniog) |
Y Swyddfa Gofrestru, Cyngor Gwynedd, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH |
Cyngor Gwynedd | Na |
Gwynedd Rhanbarth Bangor |
Y Swyddfa Gofrestru, Cyngor Gwynedd, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH |
Cyngor Gwynedd | Na |
Gwynedd Rhanbarth Caernarfon |
Y Swyddfa Gofrestru, Cyngor Gwynedd, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH |
Cyngor Gwynedd | Na |
Gwynedd Rhanbarth De Meirionnydd (Dolgellau) |
Y Swyddfa Gofrestru, Cyngor Gwynedd, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH |
Cyngor Gwynedd | Na |
Gwynedd Rhanbarth Dwyfor (Pwllheli) |
Y Swyddfa Gofrestru, Cyngor Gwynedd, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH |
Cyngor Gwynedd | Na |
Gwynedd Rhanbarth Penllyn (Y Bala) |
Y Swyddfa Gofrestru, Cyngor Gwynedd, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH |
Cyngor Gwynedd | Na |
Powys Rhanbarth Machynlleth |
Y Cofrestrydd Arolygol, Y Swyddfa Gofrestru, Y Gwalia, Ffordd Ithon, Llandrindod, Powys. LD1 6AA |
Cyngor Sir Powys | Na |
Powys Rhanbarth Y Drenewydd |
Y Cofrestrydd Arolygol, Y Swyddfa Gofrestru, Y Gwalia, Ffordd Ithon, Llandrindod, Powys. LD1 6AA |
Cyngor Sir Powys | Na |
Powys Rhanbarth y Trallwng a Llanfyllin |
Y Cofrestrydd Arolygol, Y Swyddfa Gofrestru, Y Gwalia, Ffordd Ithon, Llandrindod, Powys. LD1 6AA |
Cyngor Sir Powys | Na |
Wrecsam |
Y Swyddfa Gofrestru, Neuadd y Dref, Wrecsam. LL11 1AY |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam | Na |
Ynys Môn |
Y Cofrestrydd Arolygol, Neuadd y Sir, Lôn Glanhwfa, Llangefni, Ynys Môn. LL77 7TW |
Cyngor Sir Ynys Môn | Na |
Mae'n well i haneswyr teulu wneud cais am dystysgrifau drwy'r post, a PHEIDIO galw ar hap yn y Swyddfa Gofrestru. Tra bydd staff bob amser yn ceisio eich cynorthwyo, mae ganddynt ddyletswyddau statudol eraill i'w gwneud bob dydd. Yn aml iawn maent yn brysur gyda genedigaethau, marwolaethau a phriodasau presennol. Fel arfer bydd ceisiadau drwy'r post yn cael eu trin yn brydlon fel y cânt eu derbyn.
Dylai cais gynnwys:
- y cyfeirnod fel y mae yn y mynegai - mae hyn o'r pwysigrwydd mwyaf
- enw'r plentyn
- enw un neu'r ddau riant (os ydych yn gwybod)
- y dyddiad geni neu gofrestru (mae o fewn pum mlynedd yn ddigonol)
Peidiwch ag anghofio cynnwys yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani ar y ffurflen gais - byddwch yn fwy tebygol o gael y tystysgrifau sydd arnoch eu hangen os rhowch fwy o wybodaeth. Bydd amlen barod â stamp o gymorth i gael y dystysgrif yn ôl i chi'n gyflymach. Dylai ceisiadau o'r tu allan i'r DU amgáu dau Gwpon Ateb Rhyngwladol gyda'r amlen hunangyfeiriedig yn lle stampiau.
Y tâl am bob tystysgrif yw £11.00 a dylid ei anfon gyda'r cais. Dylid croesi sieciau "/& Co/". Peidiwch ag anfon arian parod.
Dylai ymgeiswyr sydd am dalu gyda cherdyn credyd gynnwys y manylion perthnasol, h.y. math o gerdyn, enw deiliad y cerdyn, rhif y cerdyn a'r dyddiad y daw i ben.
Yn ôl i ddechrau'r dudalen
4. Gaf i weld y cofnodion gwreiddiol?
Na chewch. Nid yw cofnodion gwreiddiol o enedigaethau, priodasau a marwolaethau sy'n cael eu dal mewn swyddfeydd cofrestru yng Nghymru a Lloegr ar agor i'r cyhoedd ac, yn ôl y gyfraith, nid oes hawl rhyddhau gwybodaeth ond ar ffurf tystysgrifau wedi eu cyhoeddi gan y cofrestryddion.
Yn ôl i ddechrau'r dudalen
5. Pam fod y cyfeirnodau yn wahanol i'r mynegeion genedigaethau cenedlaethol?
Mae'r mynegeion cenedlaethol o enedigaethau yng Nghymru a Lloegr yn Myddelton Place (gynt yn St. Catherine's House a chyn hynny yn Somerset House), Llundain, yn rhestru genedigaeth pob plentyn a gofrestrwyd ymhob chwarter blwyddyn ers 1837. Maent yn dangos enw'r plentyn, cyfenw morwynol y fam (ers 1912 yn unig), enw'r rhanbarth cofrestru (fel yr oedd ar y pryd), a rhif y gyfrol a'r dudalen, sydd yn unigryw i Swyddfa'r Cofrestrydd Cyffredinol ac yn golygu dim i gofrestryddion lleol.
Bob tri mis ers Gorffennaf 1837, bu'n ofynnol ar gofrestryddion i anfon copïau o'u cofrestri genedigaethau i Swyddfa'r Cofrestrydd Cyffredinol. Am resymau amrywiol, cafodd cofnodion eu methu weithiau, neu fe gopïwyd manylion yn anghywir o'r gofrestr; fel arfer gall hyn egluro gwahaniaethau rhwng tystysgrifau a archebwyd o'r GRO a'r rhai a gafwyd o swyddfeydd cofrestru lleol. A siarad yn gyffredinol, mae'r cofrestri a'r mynegeion sydd yn y swyddfeydd lleol yn llai tueddol o fod â gwallau ynddynt, a dylent felly fod yn fwy manwl gywir na rhai'r GRO.
Yn ôl i ddechrau'r dudalen
6. Pam na allaf i ddod o hyd i enedigaeth yn y mynegeion?
Mae cipolwg drwy'r mynegeion yn dangos rhai enwau cyffredin yn cael eu sillafu mewn ffyrdd anghyffredin, a gall hyn egluro pam na allwch ddod o hyd i enedigaeth. Yn nyddiau cynnar cofrestru, ac oherwydd cymaint o anllythrennedd, byddai'r fam neu'r tad yn dweud yr enw a'r cyfenw wrth y cofrestrydd, fyddai'n eu sillafu yn ôl yr hyn a glywai. Os na allai'r rhieni ddarllen nac ysgrifennu, ni fyddent yn gwybod os oedd yr enwau'n cael eu sillafu'n gyson. Er enghraifft, efallai na fyddai pobl yn chwilio am y teulu Muir yn meddwl edrych o dan 'Mewr', neu 'Raleigh' o dan 'Rolli'; yng Nghymru - chwilio o dan Griffith a Griffiths neu hyd yn oed Gruffudd.
I helpu i oresgyn y broblem hon mae'r tudalennau chwilio yn gallu rhoi cynnig ar restru enwau sy'n swnio'n debyg ond yn cael eu sillafu'n wahanol. Mae awgrymiadau ar sut i gael y gorau o chwilio'r mynegeion ar y wefan hon ar gael yma.
Fel y nodwyd uchod, roedd rhai plant yn dal heb gael eu henwi pan gofrestrwyd eu genedigaethau, a byddant yn ymddangos yn syml fel 'Male' neu 'Female'. Er bod modd, o dan rai amgylchiadau, i ychwanegu neu newid enwau ar dystysgrifau ar ôl cofrestru am y tro cyntaf, roedd hyn yn anghyffredin.
Os ydych yn fodlon nad yw enw yn ymddangos yn y mynegeion, yna efallai fod eich hynafiaid wedi cael eu geni oddi allan i'r rhanbarth. Nid oedd yn anghyffredin i fam eni plentyn oddi cartref, yn arbennig tra'n aros gyda'i rhieni neu berthnasau eraill. Gall mynegeion y GRO fod yn ddefnyddiol o ran gweld lle'r oedd yr enedigaeth, ond cofiwch fod llawer o gofnodion wedi symud o gwmpas rhwng rhanbarthau oherwydd newid ffiniau.
Yn ôl i ddechrau'r dudalen
7. Beth os mabwysiadwyd y plentyn?
Os mabwysiadwyd plentyn, ni fyddai cofnod o'r mabwysiadu yn y Swyddfa Gofrestru leol. Y Cofrestrydd Cyffredinol sy'n dal cofnodion mabwysiadu yng Nghymru a Lloegr (mabwysiadu ers 1 Ionawr 1927 o dan y Deddfau Mabwysiadu).
Mae Tystysgrif Fabwysiadu safonol yn gopi llawn o'r cofnod yng Nghofrestr Plant a Fabwysiadwyd sydd, yn lle rhoi manylion y rhieni a chofrestru genedigaeth, yn rhoi'r dyddiad geni (os oedd ar gael) a manylion o'r mabwysiadu a'r rhieni oedd yn mabwysiadu.
Dylid gwneud ceisiadau am Dystysgrifau Mabwysiadu yn ysgrifenedig i: Adoptions Section, Office for National Statistics, Smedley Hydro, Birkdale, Southport, PR8 2HH.
Os gwyddoch fod y cofnod sydd arnoch ei angen yn berthynol i berson a fabwysiadwyd wedyn, a'ch bod yn dymuno cael copi o'r cofnod gwreiddiol, cofiwch ddweud hyn pan yn gwneud cais.
Yn ôl i ddechrau'r dudalen
8. Beth ddylwn i wneud os gwelaf wall yn y mynegeion?
Er gwneud pob ymdrech i sicrhau cywirdeb y mynegeion hyn, efallai fod ambell wall ynddynt. Os tybiwch eich bod wedi gweld gwall, anfonwch e-bost at: gwefeistr , yn rhoi gymaint o fanylion ag y gallwch.