Chwilio yn y Mynegeion Marwolaethau

Canllaw i'r Mynegeion Marwolaethau

  1. Pa ardaloedd sydd yn y mynegeion?
  2. Pa wybodaeth sydd yn y mynegeion?
  3. Sut mae archebu tystysgrif marwolaeth?
  4. Gaf i weld y cofnodion gwreiddiol?
  5. Pam fod y cyfeirnodau yn wahanol i'r mynegeion marwolaethau cenedlaethol?
  6. Pam na allaf i ddod o hyd i farwolaeth yn y mynegeion?
  7. Beth ddylwn i wneud os gwelaf wall yn y mynegeion?
Yn ôl

1. Pa ardaloedd sydd yn y mynegeion?

Ein nod maes o law yw cynnwys marwolaethau a gofrestrwyd yng Ngogledd Cymru rhwng 1837 a 1950.

Erbyn hyn mae'r cofnodion hyn yn cael eu dal mewn nifer o wahanol swyddfeydd cofrestru ac nid yw'r cyfan ohonynt yng nghronfa ddata GPM Gogledd Cymru eto.

t ddibenion cofrestru marwolaethau, rhannwyd Gogledd Cymru yn ddwsinau o Isranbarthau Cofrestru. Mae rhestr lawn o'r Isranbarthau sydd yn y gronfa ddata hyd yma i'w gweld ar y dudalen Cwmpas y Mynegeion Marwolaethau, sydd hefyd yn dangos pa flynyddoedd o'r cofnodion sydd yn y mynegai.

Oherwydd bod cyfres o gofnodion ar wahân ar gyfer pob Isranbarth, bydd y dyddiadau cwmpasu yn amrywio. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei hychwanegu at y gronfa ddata cyn gynted ag y daw i law, a bydd yr ychwanegiadau diweddaraf i'w gweld ar y dudalen Diweddaraf.

Yn ôl i ddechrau'r dudalen

2. Pa wybodaeth sydd yn y mynegeion?

O'r mynegeion, gallwch ddod i wybod:

(a) Enw'r ymadawedig, fel sy'n cael ei ddangos yn y cofrestri. Bydd cyrff heb eu hadnabod yn cael eu rhestru fel 'Unknown male' neu 'Unknown female'.
(b) Y Flwyddyn pryd y cofrestrwyd y farwolaeth. Oherwydd y ffordd y trefnwyd mynegeion y cofrestrydd nid oes modd gwybod yr union flwyddyn, ond bydd honno yn cael ei dangos bob tro y bydd modd gwneud hynny. Cofiwch mai'r flwyddyn yw'r un pan gofrestrwyd y farwolaeth, all fod wythnosau neu hyd yn oed fisoedd ar ôl i'r person farw, yn enwedig oes oedd amgylchiadau amheus.
(c) Yr Isranbarth lle cofrestrwyd y farwolaeth, a ddylai fod yr un fath â lle bu'r person farw.
(d) Y Swyddfa Gofrestru yng Ngogledd Cymru sydd erbyn hyn yn dal y cofnodion hynny. Bu llawer o newid ffiniau rhwng rhanbarthau ers dechrau cofrestru yn 1837 ac, o ganlyniad, mae llawer o gofnodion wedi cael eu symud o gwmpas.
(e) Cyfeirnod y Cofrestrydd ar gyfer cofnod y farwolaeth, y gallwch ei ddefnyddio i archebu copi o'r dystysgrif marwolaeth. Mae'n bwysig nodi fod hwn yn berthnasol yn unig i'r swyddfa gofrestru sy'n dal y cofnodion, ac nad yw'n golygu dim yn unrhyw fan arall.

Cofiwch mai prif ddiben y mynegeion hyn, hyd yn ddiweddar, oedd ar gyfer cyflenwi copïau ardystiedig o gofnodion mewn cofrestri. Felly cawsant eu hysgrifennu i gynorthwyo'r cofrestrydd i ddod o hyd i gofnod gyda'r wybodaeth a roddwyd gan y sawl oedd eisiau copi. O ganlyniad, nid ydynt bob amser yn rhoi gwybodaeth mewn ffurf ddelfrydol i haneswyr teulu.

Yn ôl i ddechrau'r dudalen

3. Sut mae archebu tystysgrif marwolaeth?

Os dowch o hyd i gofnod sydd o ddiddordeb i chi, gallwch archebu tystysgrif marwolaeth, sydd yn gopi o'r cofnod llawn yn y gofrestr wreiddiol. Fel arfer mae hyn yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

Dylid gwneud ceisiadau am gopïau ardystiedig o'r cofnodion marwolaethau o'r mannau canlynol:

SwyddfaCyfeiriadTaliadau i:Cardiau Credyd
Bwrdeistref Sirol Conwy Y Cofrestrydd Arolygol,
Y Swyddfa Gofrestru,
Neuadd y Dref,
Lloyd Street,
Llandudno,
Conwy.
LL30 2UP
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Na
Sir Ddinbych Gwasanaeth Cofrestru Sir Ddinbych,
Swyddfa Gofrestru Y Rhyl,
Neuadd y Dref,
Ffordd Wellington,
Y Rhyl
LL18 1BA
Cyngor Sir Ddinbych Na
Sir y Fflint Y Cofrestrydd Arolygol,
Swyddfa Gofrestru Sir y Fflint,
Plas Llwynegrin,
Yr Wyddgrug,
Sir y Fflint.
CH7 6NR
Cyngor Sir y Fflint Na
Gwynedd

Rhanbarth Ardudwy (Blaenau Ffestiniog)
Y Swyddfa Gofrestru,
Cyngor Gwynedd,
Caernarfon,
Gwynedd.
LL55 1SH
Cyngor Gwynedd Na
Gwynedd

Rhanbarth Bangor
Y Swyddfa Gofrestru,
Cyngor Gwynedd,
Caernarfon,
Gwynedd.
LL55 1SH
Cyngor Gwynedd Na
Gwynedd

Rhanbarth Caernarfon
Y Swyddfa Gofrestru,
Cyngor Gwynedd,
Caernarfon,
Gwynedd.
LL55 1SH
Cyngor Gwynedd Na
Gwynedd

Rhanbarth De Meirionnydd (Dolgellau)
Y Swyddfa Gofrestru,
Cyngor Gwynedd,
Caernarfon,
Gwynedd.
LL55 1SH
Cyngor Gwynedd Na
Gwynedd

Rhanbarth Dwyfor (Pwllheli)
Y Swyddfa Gofrestru,
Cyngor Gwynedd,
Caernarfon,
Gwynedd.
LL55 1SH
Cyngor Gwynedd Na
Gwynedd

Rhanbarth Penllyn (Y Bala)
Y Swyddfa Gofrestru,
Cyngor Gwynedd,
Caernarfon,
Gwynedd.
LL55 1SH
Cyngor Gwynedd Na
Powys

Rhanbarth Machynlleth
Y Cofrestrydd Arolygol,
Y Swyddfa Gofrestru,
Y Gwalia,
Ffordd Ithon,
Llandrindod,
Powys.
LD1 6AA
Cyngor Sir Powys Na
Powys

Rhanbarth Y Drenewydd
Y Cofrestrydd Arolygol,
Y Swyddfa Gofrestru,
Y Gwalia,
Ffordd Ithon,
Llandrindod,
Powys.
LD1 6AA
Cyngor Sir Powys Na
Powys

Rhanbarth y Trallwng a Llanfyllin
Y Cofrestrydd Arolygol,
Y Swyddfa Gofrestru,
Y Gwalia,
Ffordd Ithon,
Llandrindod,
Powys.
LD1 6AA
Cyngor Sir Powys Na
Wrecsam Y Swyddfa Gofrestru,
Neuadd y Dref,
Wrecsam.
LL11 1AY
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Na
Ynys Môn Y Cofrestrydd Arolygol,
Neuadd y Sir,
Lôn Glanhwfa,
Llangefni,
Ynys Môn.
LL77 7TW
Cyngor Sir Ynys Môn Na

Mae'n well i haneswyr teulu wneud cais am dystysgrifau drwy'r post, a PHEIDIO galw ar hap yn y Swyddfa Gofrestru. Tra bydd staff bob amser yn ceisio eich cynorthwyo, mae ganddynt ddyletswyddau statudol eraill i'w gwneud bob dydd. Yn aml iawn maent yn brysur gyda genedigaethau, marwolaethau a phriodasau presennol. Fel arfer bydd ceisiadau drwy'r post yn cael eu trin yn brydlon fel y cânt eu derbyn.

Dylai cais gynnwys:

Peidiwch ag anghofio cynnwys yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani ar y ffurflen gais - byddwch yn fwy tebygol o gael y tystysgrifau sydd arnoch eu hangen os rhowch fwy o wybodaeth. Bydd amlen barod â stamp o gymorth i gael y dystysgrif yn ôl i chi'n gyflymach. Dylai ceisiadau o'r tu allan i'r DU amgáu dau Gwpon Ateb Rhyngwladol gyda'r amlen hunangyfeiriedig yn lle stampiau.

Y tâl am bob tystysgrif yw £11.00 a dylid ei anfon gyda'r cais. Dylid croesi sieciau "/& Co/". Peidiwch ag anfon arian parod.

Dylai ymgeiswyr sydd am dalu gyda cherdyn credyd gynnwys y manylion perthnasol, h.y. math o gerdyn, enw deiliad y cerdyn, rhif y cerdyn a'r dyddiad y daw i ben.

Yn ôl i ddechrau'r dudalen

4. Gaf i weld y cofnodion gwreiddiol?

Na chewch. Nid yw cofnodion gwreiddiol o enedigaethau, priodasau a marwolaethau sy'n cael eu dal mewn swyddfeydd cofrestru yng Nghymru a Lloegr ar agor i'r cyhoedd ac, yn ôl y gyfraith, nid oes hawl rhyddhau gwybodaeth ond ar ffurf tystysgrifau wedi eu cyhoeddi gan y cofrestryddion.

Yn ôl i ddechrau'r dudalen

5. Pam fod y cyfeirnodau yn wahanol i'r mynegeion genedigaethau cenedlaethol?

Mae'r mynegeion cenedlaethol o farwolaethau yng Nghymru a Lloegr yn Myddelton Place (gynt yn St. Catherine's House a chyn hynny yn Somerset House), Llundain, yn rhestru marwolaeth pawb a gofrestrwyd ymhob chwarter blwyddyn ers 1837. Maent yn dangos enw'r ymadawedig, yr oed pan fu farw (ers 1866 yn unig), enw'r rhanbarth cofrestru (fel yr oedd ar y pryd), a rhif y gyfrol a'r dudalen, sydd yn unigryw i Swyddfa'r Cofrestrydd Cyffredinol ac yn golygu dim i gofrestryddion lleol.

Bob tri mis ers Gorffennaf 1837, bu'n ofynnol ar gofrestryddion i anfon copïau o'u cofrestri marwolaethau i Swyddfa'r Cofrestrydd Cyffredinol. Am resymau amrywiol, cafodd cofnodion eu methu weithiau, neu fe gopïwyd manylion yn anghywir o'r gofrestr; fel arfer gall hyn egluro gwahaniaethau rhwng tystysgrifau a archebwyd o'r GRO a'r rhai a gafwyd o swyddfeydd cofrestru lleol. A siarad yn gyffredinol, mae'r cofrestri a'r mynegeion sydd yn y swyddfeydd lleol yn llai tueddol o fod â gwallau ynddynt, a dylent felly fod yn fwy manwl gywir na rhai'r GRO. Yn ôl i ddechrau'r dudalen


6. Pam na allaf i ddod o hyd i farwolaeth yn y mynegeion?

Mae cipolwg drwy'r mynegeion yn dangos rhai enwau cyffredin yn cael eu sillafu mewn ffyrdd anghyffredin, a gall hyn egluro pam na allwch ddod o hyd i farwolaeth. Yn nyddiau cynnar cofrestru, ac oherwydd cymaint o anllythrennedd, byddai'r person yn cofrestru'r farwolaeth yn dweud y manylion wrth y cofrestrydd, fyddai'n eu sillafu yn ôl yr hyn a glywai. Os na allai'r hysbysydd ddarllen nac ysgrifennu, ni fyddai'n gwybod os oedd yr enwau yn cael eu sillafu'n gyson. Weithiau, cymydog neu gyfaill oedd yr hysbysydd, nad oedd efaillai yn sicr o enw llawn nac oed yr ymadawedig.

I helpu i oresgyn y gwahanol sillafu mae'r tudalennau chwilio yn gallu rhoi cynnig ar restru enwau sy'n swnio'n debyg ond yn cael eu sillafu'n wahanol. Mae awgrymiadau ar sut i gael y gorau o chwilio'r mynegeion ar y wefan hon ar gael yma.

Fel y nodwyd uchod, roedd rhai pobl yn dal heb eu hadnabod pan gofrestrwyd eu marwolaethau, a byddant yn ymddangos fel 'Unknown male' neu 'Unknown female' er bod modd, o dan rai amgylchiadau, i ailgofrestru'r farwolaeth pe bai enw'r person yn cael ei ddarganfod wedyn.

Os ydych yn fodlon nad yw enw yn ymddangos yn y mynegeion, yna efallai fod eich hynafiad wedi marw oddi allan i'r rhanbarth. Nid oedd yn anghyffredin i bobl farw tra'n gweithio oddi cartref, neu'n ymweld â pherthnasau mewn rhyw ran arall o'r wlad. Gall mynegeion y GRO fod yn ddefnyddiol o ran gweld lle bu'r person farw, ond cofiwch fod llawer o gofnodion wedi symud o gwmpas rhwng rhanbarthau oherwydd newid ffiniau.

Yn ôl i ddechrau'r dudalen

7. Beth ddylwn i wneud os gwelaf wall yn y mynegeion?

Er gwneud pob ymdrech i sicrhau cywirdeb y mynegeion hyn, efallai fod ambell wall ynddynt. Os tybiwch eich bod wedi gweld gwall, anfonwch e-bost at: gwefeistr , yn rhoi gymaint o fanylion ag y gallwch.

Yn ôl i ddechrau'r dudalen