Cwestiynau Cyffredin.

Ers dyfodiad y wefan hon, gofynnwyd llawer o gwestiynau dro ar ôl tro. Efallai y dowch o hyd i'r ateb i'ch cwestiwn ar y dudalen hon. Os nad yw'r ateb yma, cofiwch gysylltu â ni gan ddefnyddio'r ddolen e-bost ar waelod y dudalen. Fodd bynnag, cofiwch mai gwirfoddolwyr ydym yn rhedeg y wefan hon yn ein hamser "sbâr", felly efallai na fyddwn yn gallu ateb eich cwestiwn ar unwaith.

C.Pam na allaf i ddod o hyd i...?
C.Pa ardaloedd sydd ar gael?
C.Sut mae cysylltu â'r Cofrestryddion yng Ngogledd Cymru?
C.Cefais hyd i gofnod yma sydd heb fod yng nghofnodion y GRO, pam?
C.Pam fod yr oed pan fu farw ar rhai cofnodion ac nid ar eraill?
C.Fyddai modd cysylltu rhif swp gyda phob cyfres newydd o ddata?
C.Sut mae cadw golwg ar ychwanegiadau newydd?
C.Pam na wnewch chi ychwanegu rhagor o wybodaeth at y rhestri?
C.Allwch chi fy helpu gyda'r cwestiwn yma am fy achau?
C.Mae fy rhan i o'r wlad eisiau ffurfio safle GPM. Allwch chi helpu?
C.Beth yw'r IRC sy'n cael eu crybwyll ar y ffurflen gais am dystysgrif?
C.Oes yna unrhyw wefannau GPM eraill?
C.Sut mae cysylltu â chi?

C.Pam na allaf i ddod o hyd i... ?
A.

Nid yw'r mynegai yn gyflawn - mae gennym ffordd bell i fynd eto.

A.

Sillafwyd y cyfenw yn wahanol - rhowch gynnig ar ddefnyddio Soundex sy'n chwilio am enwau allai swnio'r un fath.

A.

Er mai'r bwriad oedd i gofrestru fod yn orfodol o 1837, nid oedd dirwy am beidio gwneud hynny hyd 1875, felly ni chafodd rhai digwyddiadau (genedigaethau yn bennaf) eu cofrestru.

Yn ôl i ddechrau'r dudalen

C.Pa ardaloedd sydd ar gael?
A.

Mae tudalen ar gyfer genedigaethau, priodasau, a marwolaethau sy'n dangos pa ardaloedd a blynyddoedd sydd ar hyn o bryd yn GPM Gogledd Cymru.

Yn ôl i ddechrau'r dudalen

C.Sut mae cysylltu â'r Cofrestryddion yng Ngogledd Cymru?
A.

Mae sawl rhanbarth cofrestru, pob un gyda Chofrestrydd Arolygol, sy'n cadw cofnodion y rhanbarth hwnnw. Mae ein tudalennau gwybodaeth yn rhoi cyfeiriad pob rhanbarth cofrestru sy'n rhan o gronfa ddata GPM Gogledd Cymru ar hyn o bryd.

Yn ôl i ddechrau'r dudalen

C.Cefais hyd i gofnod yma sydd heb fod yng nghofnodion y GRO, pam?
A.

Byddwn yn gweithio o'r cofnodion gwreiddiol. Unwaith bob tri mis roedd y cofnodion yn y swyddfeydd lleol yn cael eu copïo a'u hanfon i'r GRO lle roeddent yn cael eu mynegeio eto. Ar bob cam o'r copïo ac ail-fynegeio, gallai camgymeriadau ddigwydd. Felly, mae'r cofnodion lleol bob amser yn debygol o fod yn fwy cywir ac yn fwy cyflawn.

Yn ôl i ddechrau'r dudalen

C.Pam fod yr oed pan fu farw ar rhai cofnodion ac nid ar eraill?
A.Os yw'r mynegeion lleol sydd yn y swyddfa gofrestru yn dangos yr oed pan fu farw, yna bydd yn ymddangos yn y rhestri. Ni allwn gyhoeddi mwy o fanylion nag sydd gan y cofrestrydd. Os bydd cysylltnod yn y golofn oed, mae hynny'n nodi nad oedd yr oed pa fu farw ar gael i ni.
Yn ôl i ddechrau'r dudalen

C.Fyddai modd cysylltu rhif swp gyda phob cyfres newydd o ddata?
A.

Byddai - cafodd y syniad ei ystyried ond ni chafodd ei weithredu am amryw resymau:

  1. Lle - mae'n debyg y byddai angen rhif 4 digid fyddai'n ychwanegu yn sylweddol at gost y wefan oherwydd bod angen mwy o le ar y ddisg.

  2. Byddai'n ychwanegu at lwyth gwaith rhedeg y wefan hon sydd eisoes yn drwm - cofiwch ein bod yn gwneud hyn yn ein hamser "sbâr".

  3. Cyflymder - byddai ychwanegu rhagor o feini prawf at y patrwm yn debygol o arafu'r chwilio.

  4. Pan fydd y mynegeion yn gyflawn, ni fyddai gwerth i'r rhifau swp.

Yn ôl i ddechrau'r dudalen

C.Sut mae cadw golwg ar ychwanegiadau newydd?
A.

Mae ein tudalen Diweddaraf yn rhestru'r holl ychwanegiadau fesul dosbarth, ardal a blwyddyn.

A.

Gallwch ddefnyddio'r nifer sy'n cael ei ddangos ar waelod canlyniad y chwilio. Gwnewch eich gwaith chwilio ac, os na fyddwch yn dod o hyd i'r hyn sydd arnoch eisiau ar unwaith, nodwch faint o gofnodion a gafwyd. Pan welwch bod diweddariad wedi bod, chwiliwch eto a gallwch weld os yw'r nifer wedi cynyddu. Os yw, efallai y byddwch yn ffodus y tro hwn.

A.

Gallwch ddefnyddio'r dewis 'Cadw mewn ffeil' ar y dudalen chwilio. Wrth i chi chwilio bydd y canlyniadau yn cael eu cadw ar eich disg galed. Wedyn gallwch ddarllen y ffeil gyda Wordpad neu Excel (neu unrhyw daenlen). Os byddwch yn credu fod diweddariad wedi bod, chwiliwch am yr un peth eto, gan ddewis cadw mewn ffeil eto ond sicrhau eich bod yn defnyddio enw gwahanol ar y ffeil. Wedyn bydd gennych ddwy ffeil, hen a newydd; a'r nod yw eu cymharu a gweld beth sy'n wahanol. Gyda Linux neu UNIX, gallwch wneud hyn trwy ddefnyddio'r rhaglen gymharu ffeiliau safonol: diff. Gyda MS-Windows bydd angen i chi lawrlwytho rhaglen gymharu ffeiliau addas, fel y rhai sydd ar gael o Programmer's Heaven neu o Shareware.com lle dylech chwilio am diff. Fel arfer, ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw raglen sy'n cael ei lawrlwytho o'r we, a dylech ddefnyddio eich sganiwr firysau ar bob rhaglen o'r fath cyn ei defnyddio.

Yn ôl i ddechrau'r dudalen

C.

Pam na wnewch chi ychwanegu rhagor o wybodaeth at y rhestri, fel enw morwynol y fam yn y mynegeion genedigaethau?

A.Mae'r gyfraith yn pennu ffurf mynegeion y cofrestrydd a byddem yn torri'r gyfraith wrth ddangos gwybodaeth sydd heb fod yn y mynegeion lleol.
Yn ôl i ddechrau'r dudalen

C.Allwch chi fy helpu gyda'r cwestiwn yma am fy achau?
A.

Mae'n ddrwg gennym ond allwn ni ddim ond ateb cwestiynau sy'n ymwneud â'r wefan hon a'i chynnwys. Mae help gyda chwestiynau am hel achau'n gyffredinol i'w gael drwy wefannau'r ddwy Gymdeithas sy'n rhedeg y wefan hon, sef Cymdeithas Hanes Teuluoedd Clwyd, Cymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd a Chymdeithas Achyddol Maldwyn.

Yn ôl i ddechrau'r dudalen

C.

Mae fy rhan i o'r wlad eisiau ffurfio safle GPM. Allwch chi helpu?

A.

Gallwn. Ysgrifennwyd y cod i gynhyrchu'r wefan hon gan y South Cheshire Family History Society, ac mae ar gael yn rhad ac am ddim i gymdeithasau hanes teuluol a chynghorau eraill. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Webmaster@cheshirebmd.org.uk.

Yn ôl i ddechrau'r dudalen

C.Beth yw'r IRC sy'n cael eu crybwyll ar y ffurflen gais am dystysgrif?
A.

Cwpons Ateb Rhyngwladol ydi IRC. Maent ar gael o swyddfeydd post ledled y byd a gallwch eu hanfon dramor lle byddant yn cael eu cyfnewid am stampiau'r wlad honno. Ond, os nad yw eich swyddfa bost erioed wedi clywed sôn amdanynt, byddai'n syniad i chi ychwanegu £1 at gost eich tystysgrif i dalu am y post yn ôl.

Yn ôl i ddechrau'r dudalen

C.Oes yna unrhyw wefannau GPM eraill?
A.

Mae rhestr o holl wefannau GPM hysbys yn UK BMD. Os ydych am ychwanegu dolen at y dudalen hon, cysylltwch â ni, fel y gwelwch isod.

Yn ôl i ddechrau'r dudalen

C.Sut mae cysylltu â chi?
A.

Cofiwch anfon eich sylwadau neu gwestiynau am y wefan hon at: gwefeistr

Yn ôl i ddechrau'r dudalen