Ein nod maes o law yw cynnwys priodasau a gofrestrwyd yng Ngogledd Cymru rhwng 1837 a 1950.
Erbyn hyn mae'r cofnodion hyn yn cael eu dal mewn nifer o wahanol swyddfeydd cofrestru ac nid yw'r cyfan ohonynt yng nghronfa ddata GPM Gogledd Cymru eto.
Mae rhanbarthau cofrestru Gogledd Cymru wedi newid cryn dipyn ers 1837. Cofiwch hefyd bod rhannau dwyreiniol pellaf y Gogledd yn dod o dan ranbarthau cofrestru yn Sir Gaer neu Sir Amwythig tan yn gymharol ddiweddar.
I gael manylion llawn o'r holl eglwysi, capeli a swyddfeydd cofrestru sydd yn y mynegai hyd yma, gwelwch y dudalen Cwmpas y Mynegeion Priodasau, sydd hefyd yn dangos pa flynyddoedd o'r cofnodion sydd yn y mynegai. Oherwydd bod cyfres o gofnodion ar wahân ar gyfer pob man lle gweinyddwyd priodasau, bydd y dyddiadau cwmpasu yn amrywio er, yn y pen draw, dylai'r mynegeion fod yn gyflawn am y cyfnod 1837 i 1950. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei hychwanegu at y gronfa ddata cyn gynted ag y daw i law, a bydd yr ychwanegiadau diweddaraf i'w gweld ar y dudalen Diweddaraf.
O'r mynegeion, gallwch weld:
(a) Enwau y priodfab a'r briodferch, fel y mae yn y cofrestri. Ambell waith bydd enw yn cael ei sillafu ddwy neu fwy o wahanol ffyrdd yn yr un gofnod, pryd y bydd pob un yn cael ei mynegeio ar wahân. Mae hyn yn wir hefyd am gyfenwau dwbl, fel y gallai 'Edward Williams Jones' ymddangos fel 'Jones, Edward W.' a 'Williams Jones, Edward'.
(b) Y Flwyddyn pryd y digwyddodd y briodas. Oherwydd y ffordd y trefnwyd mynegeion y cofrestrydd nid oes modd gwybod yr union flwyddyn, ond bydd honno yn cael ei dangos bob tro y bydd modd gwneud hynny.
(c) Yr Eglwys, Capel neu Ranbarth Cofrestru lle gweinyddwyd y briodas. Hyd 1898 dim ond addoldai Eglwys Loegr, yr Iddewon a'r Crynwyr oedd â'r hawl i'w cofrestri priodas eu hunain. Roedd pob priodas arall mewn addoldai anghydffurfiol a Phabyddol yn gorfod cael ei chynnal ym mhresenoldeb cofrestrydd. Oherwydd hyn, mae'r priodasau hyn yn cael eu rhestru fel 'Priodasau Sifil', ac yn cael eu cadw yn yr un cofrestri â'r priodasau yn y swyddfa gofrestru leol. Ar ôl 1898 roedd hawl i addoldai anghydffurfiol a Phabyddol gadw eu cofrestri eu hunain a gweinyddu eu priodasau eu hunain ac, felly, o'r flwyddyn honno mae llawer mwy o wahanol gofrestri priodasau.
(d) Y Swyddfa Gofrestru yng Ngogledd Cymru sydd erbyn hyn yn dal y cofnodion hynny. Bu llawer o newid ffiniau rhwng rhanbarthau ers dechrau cofrestru yn 1837 ac, o ganlyniad, mae llawer o gofnodion wedi cael eu symud o gwmpas.
(e) Cyfeirnod y Cofrestrydd ar gyfer cofnod y briodas, y gallwch ei ddefnyddio i archebu copi o'r dystysgrif briodas, ac a ddylai fod yr un fath i'r priodfab a'r briodferch. Mae'n bwysig nodi fod hwn yn berthnasol yn unig i'r swyddfa gofrestru sy'n dal y cofnodion, ac nad yw'n golygu dim yn unrhyw fan arall.
Cofiwch mai prif ddiben y mynegeion hyn, hyd yn ddiweddar, oedd ar gyfer cyflenwi copïau ardystiedig o gofnodion mewn cofrestri. Felly cawsant eu hysgrifennu i gynorthwyo'r cofrestrydd i ddod o hyd i gofnod gyda'r wybodaeth a roddwyd gan y sawl oedd eisiau copi. O ganlyniad, nid ydynt bob amser yn rhoi gwybodaeth mewn ffurf ddelfrydol i haneswyr teulu.
Os dowch o hyd i gofnod sydd o ddiddordeb i chi, gallwch archebu tystysgrif briodas, sy'n gopi o'r cofnod llawn yn y gofrestr wreiddiol. Fel arfer mae hyn yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol ar gyfer y priodfab a'r briodferch:
Dylid gwneud ceisiadau am gopïau ardystiedig o'r cofnodion priodas o'r mannau canlynol:
| Swyddfa | Cyfeiriad | Taliadau i: | Cardiau Credyd |
|---|---|---|---|
| Bwrdeistref Sirol Conwy Swyddfa Gofrestru Llandudno |
Y Cofrestrydd Arolygol, Y Swyddfa Gofrestru, Neuadd y Dref, Lloyd Street, Llandudno, Conwy. LL30 2UP UK |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy | Na |
| Sir Ddinbych - Rhanbarth Gogledd Sir Ddinbych Swyddfa Gofrestru'r Rhyl |
Y Cofrestrydd Arolygol, Swyddfa Gofrestru'r Rhyl, Morfa Clwyd, Ffordd Marsh, Y Rhyl, Sir Ddinbych. LL18 2AT UK |
Cyngor Sir Ddinbych | Na |
| Sir Ddinbych - Rhanbarth De Sir Ddinbych Swyddfa Gofrestru Rhuthun |
Y Cofrestrydd Arolygol, Swyddfa Gofrestru Rhuthun, Neuadd y Dref, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, Sir Ddinbych. LL15 1YN UK |
Cyngor Sir Ddinbych | Na |
| Sir y Fflint Swyddfa Gofrestru Sir y Fflint |
Y Cofrestrydd Arolygol, Swyddfa Gofrestru Sir y Fflint, Plas Llwynegrin, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 6NR UK |
Cyngor Sir y Fflint | Na |
| Gwynedd - Rhanbarth Penllyn Swyddfa Gofrestru'r Bala |
Y Cofrestrydd Arolygol, Swyddfa Gofrestru'r Bala, Fron Fair, Strydd Mawr, Bala, Gwynedd. LL23 7AD UK |
Y Cofrestrydd Arolygol | Na |
| Gwynedd - Rhanbarth De Meirionnydd Swyddfa Gofrestru Dolgellau |
Y Cofrestrydd Arolygol, Swyddfa Gofrestru Dolgellau, Cae Penarlag, Dolgellau, Gwynedd. LL40 2YB UK |
Y Cofrestrydd Arolygol | Na |
| Powys - Rhanbarth Machynlleth
Swyddfa Gofrestru Machynlleth |
Y Cofrestrydd Arolygol, Swyddfa Gofrestru Machynlleth, 11 Stryt Penrallt, Machynlleth, Powys. SY20 8AG UK |
Cyngor Sir Powys | Na |
| Powys - Rhanbarth Y Drenewydd
Swyddfa Gofrestru'r Drenewydd |
Y Cofrestrydd Arolygol, Swyddfa Gofrestru'r Drenewydd, Y Parc, Y Drenewydd, Powys. SY16 2NZ UK |
Cyngor Sir Powys | Na |
| Powys - Rhanbarth y Trallwng a Llanfyllin
Swyddfa Gofrestru'r Trallwng |
Y Cofrestrydd Arolygol, Swyddfa Gofrestru'r Trallwng, Neuadd Maldwyn, Severn Road, Y Trallwng, Powys. SY21 7AS UK |
Cyngor Sir Powys | Na |
| Wrecsam Swyddfa Gofrestru Wrecsam |
Y Cofrestrydd Arolygol, Y Swyddfa Gofrestru, Ty Dewi Sant, Ffordd Rhosddu, Wrecsam. LL11 1NF UK |
Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam | Na |
Mae'n well i haneswyr teulu wneud cais am dystysgrifau drwy'r post, a PHEIDIO galw ar hap yn y Swyddfa Gofrestru. Tra bydd staff bob amser yn ceisio eich cynorthwyo, mae ganddynt ddyletswyddau statudol eraill i'w gwneud bob dydd. Yn aml iawn maent yn brysur gyda genedigaethau, marwolaethau a phriodasau presennol. Fel arfer bydd ceisiadau drwy'r post yn cael eu trin yn brydlon fel y cânt eu derbyn.
Dylai cais gynnwys:
Peidiwch ag anghofio cynnwys yr holl wybodaeth y gofynnwyd amdani ar y ffurflen gais - byddwch yn fwy tebygol o gael y tystysgrifau sydd arnoch eu hangen os rhowch fwy o wybodaeth. Bydd amlen barod â stamp o gymorth i gael y dystysgrif yn ôl i chi'n gyflymach. Dylai ceisiadau o'r tu allan i'r DU amgáu dau Gwpon Ateb Rhyngwladol gyda'r amlen hunangyfeiriedig yn lle stampiau.
Y tâl am bob tystysgrif yw yn £7.00 a dylid ei anfon gyda'r cais. Dylid croesi sieciau "/& Co/". Peidiwch ag anfon arian parod.
Dylai ymgeiswyr sydd am dalu gyda cherdyn credyd gynnwys y manylion perthnasol, h.y. math o gerdyn, enw deiliad y cerdyn, rhif y cerdyn a'r dyddiad y daw i ben. Sylwch: ar hyn o bryd nid yw unrhyw Swyddfa yn GPM Gogledd Cymru yn gallu derbyn taliadau cerdyn credyd.
Na chewch. Nid yw cofnodion gwreiddiol o enedigaethau, priodasau a marwolaethau sy'n cael eu dal mewn swyddfeydd cofrestru yng Nghymru a Lloegr ar agor i'r cyhoedd ac, yn ôl y gyfraith, nid oes hawl rhyddhau gwybodaeth ond ar ffurf tystysgrifau wedi eu cyhoeddi gan y cofrestryddion.
Fodd bynnag, o ran priodasau yn addoldai Eglwys Loegr / Yr Eglwys yng Nghymru, mae ail ail gyfres o gofnodion yn bodoli, sydd ar agor i'r cyhoedd. Fel arfer, roedd yr eglwys yn cadw'r cofrestri hyn ac erbyn hyn mae'r rhan fwyaf o rai Gogledd Cymru yn yr Archifdy Sirol priodol, neu yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r rhai ar gyfer hen ardal Clwyd ar gael ar ffilm hefyd yn Archifdai Sir y Fflint a Sir Ddinbych, y Llyfrgell Genedlaethol ac, yn rhannol, yng nghanolfannau astudiaethau lleol CBS Wrecsam a CBS Conwy. Mae copļau o gofrestri Gwynedd ac Ynys Môn sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol ar gael ar ffilm hefyd yn Archifdai Caernarfon, Dolgellau a Llangefni ac, yn rhannol, yng nghanolfan astudiaethau lleol CBS Conwy.
Mae'r mynegeion cenedlaethol o briodasau yng Nghymru a Lloegr yn Myddelton Place (gynt yn St. Catherine's House a chyn hynny yn Somerset House), Llundain, yn rhestru pawb a briodwyd ymhob chwarter blwyddyn ers 1837. Maent yn dangos enw'r priodfab a'r briodferch, cyfenw'r priod (ers 1912 yn unig), enw'r rhanbarth cofrestru (fel yr oedd ar y pryd), a rhif y gyfrol a'r dudalen, sydd yn unigryw i Swyddfa'r Cofrestrydd Cyffredinol ac yn golygu dim i gofrestryddion lleol.
Bob tri mis ers Gorffennaf 1837, bu'n ofynnol ar gofrestryddion ac offeiriaid Eglwys Loegr / Yr Eglwys yng Nghymru i anfon copïau o'u cofrestri priodasau i Swyddfa'r Cofrestrydd Cyffredinol. Am resymau amrywiol, cafodd cofnodion eu methu weithiau, neu fe gopïwyd manylion yn anghywir o'r gofrestr; fel arfer gall hyn egluro gwahaniaethau rhwng tystysgrifau a archebwyd o'r GRO a'r rhai a gafwyd o swyddfeydd cofrestru lleol. A siarad yn gyffredinol, mae'r cofrestri a'r mynegeion sydd yn y swyddfeydd lleol yn llai tueddol o fod â gwallau ynddynt, a dylent felly fod yn fwy manwl gywir na rhai'r GRO.
Mae cipolwg drwy'r mynegeion yn dangos rhai enwau cyffredin yn cael eu sillafu mewn ffyrdd anghyffredin, a gall hyn egluro pam na allwch ddod o hyd i briodas. Yn nyddiau cynnar cofrestru, ac oherwydd cymaint o anllythrennedd, byddai'r priodfab a'r briodferch yn dweud eu henwau wrth yr offeiriad neu'r cofrestrydd, fyddai'n eu sillafu yn ôl yr hyn a glywai. Os na allai'r pâr ddarllen nac ysgrifennu, ni fyddent yn gwybod os oedd yr enwau'n cael eu sillafu'n gyson. Er enghraifft, efallai na fyddai pobl yn chwilio am y teulu Muir yn meddwl edrych o dan 'Mewr', neu 'Raleigh' o dan 'Rolli'; yng Nghymru - chwilio o dan Griffith a Griffiths neu hyd yn oed Gruffudd.
I helpu i oresgyn y broblem hon mae'r tudalennau chwilio yn gallu rhoi cynnig ar restru enwau sy'n swnio'n debyg ond yn cael eu sillafu'n wahanol. Mae awgrymiadau ar sut i gael y gorau o chwilio'r mynegeion ar y wefan hon ar gael yma.
Os ydych yn fodlon nad yw enw yn ymddangos yn y mynegeion, yna efallai fod eich hynafiaid wedi priodi oddi allan i'r rhanbarth. Nid oedd yn anghyffredin i bâr deithio milltiroedd o'u cartrefi arferol i briodi mewn capel neu eglwys lle'r oedd aelodau eraill y teulu wedi priodi o'u blaen. Gall mynegeion y GRO fod yn ddefnyddiol o ran gweld lle'r oedd y briodas ond cofiwch fod llawer o gofnodion wedi symud o gwmpas rhwng rhanbarthau oherwydd newid ffiniau.
Er gwneud pob ymdrech i sicrhau cywirdeb y mynegeion hyn, efallai fod ambell wall ynddynt. Os tybiwch eich bod wedi gweld gwall, anfonwch e-bost at: gwefeistr@northwalesbmd.org.uk, yn rhoi gymaint o fanylion ag y gallwch.
| Cymdeithas Hanes Teuluoedd Clwyd | Hafan | |
| Cymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd | Home (English) | |
| Cymdeithas Achyddol Maldwyn | Yn ôl |