Cyfansoddiad yr Isranbarthau Cofrestru

At ddibenion cofrestru Genedigaethau a Marwolaethau, rhannwyd Gogledd Cymru yn nifer o Isranbarthau Cofrestru, allai gwmpasu unrhyw beth o dref hyd at gasgliad o ddwsin o blwyfi gwledig efallai. Newidiodd ffiniau'r ardaloedd hyn yn aml dros y blynyddoedd ers 1837 ac, o ganlyniad, symudwyd llawer o gofnodion genedigaeth a marwolaeth rhwng swyddfeydd cofrestru.

Mae'r rhestr isod yn ceisio dangos y plwyfi neu lefydd ymhob isranbarth oedd mewn bodolaeth cyn 1950 er, gan fod ffiniau'r plwyfi eu hunain wedi newid yn sylweddol, canllawiau'n unig yw'r rhain.

Yn y rhestr hon, dim ond yr isranbarthau hynny sydd â data ar wefan GPM Gogledd Cymru sydd i'w gweld ar hyn o bryd. Caiff y rhestr ei diweddaru bob tro y bydd isranbarth "newydd" yn cael ei ychwanegu at y wefan.

Yn ôl


Isranbarth Amlwch
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru "Anglesey" (1837-1937).
Yn Rhanbarth Cofrestru "Anglesey East" (1937-1958).
Cyfuned ag Isranbarth Llangefni yn 1958.

Plwyfi Amlwch, Llaneilian, Llanwenllwyfo.

Erbyn hyn mae'r cofrestri yn Ynys Môn (Llangefni)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Dwyrain Ynys Môn
Crëwyd 1 Hydref 1963.
Yn Rhanbarth Cofrestru "Anglesey East" (1963-1968).
Yn Rhanbarth Cofrestru "Anglesey" (1968-1974).

Erbyn hyn mae'r cofrestri yn Ynys Môn (Llangefni)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Gorllewin Ynys Môn
Crëwyd 1 Hydref 1963.
Yn Rhanbarth Cofrestru "Anglesey West" (1963-1968).
Yn Rhanbarth Cofrestru "Anglesey" (1968-1974).

Erbyn hyn mae'r cofrestri yn Ynys Môn (Llangefni)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Biwmares
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Bangor (1837-1937).
Yn Rhanbarth Cofrestru "Anglesey East" (1937-1958).
Cyfuned ag Isranbarth Llangefni yn 1958.

Plwyfi Biwmares, Llanddeiniel-Fab, Llanedwen, Llanfihangel Ysgeifiog, Llanffinan, Penmynydd, Llansadwrn, Llaniestyn, Llanddona, Llanfihangel Dinsylwy, Penmon, Llangoed, Llanfaes, Llandegfan, Llandysilio, Llanfairpwllgwyngyll.

Erbyn hyn mae'r cofrestri yn Ynys Môn (Llangefni)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Bodedern
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru "Anglesey" (1837-1843).

Erbyn hyn mae'r cofrestri yn Ynys Môn (Llangefni)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Bryngwran
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru "Anglesey" (1837-1885).
Yn Rhanbarth Cofrestru "Holyhead" (1885-1923).

Plwyfi Llangwyfan, Llanfaelog, Llechylched, Ceirchiog, Llanbeulan, Trewelchmai, Bodwrog, Llandrygarn, Llanllibio, Llantrisant, Llechgynfarwy, Rhodogeidio, Llannerch-y-medd, Gwredog.

Erbyn hyn mae'r cofrestri yn Ynys Môn (Llangefni)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Llanddeusant
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru "Anglesey" (1837-1885).
Yn Rhanbarth Cofrestru "Holyhead" (1885-1923).

Plwyfi Llanddeusant, Rhosbeirio, Bodewryd, Llanbadrig, Llanfechell, Llanrhwydrys, Llanfair yng Nghornwy, Llanrhuddlad, Llanfflewin, Llanbabo, Llanfaethlu, Llanfwrog, Llanfachreth, Llanfigel.

Erbyn hyn mae'r cofrestri yn Ynys Môn (Llangefni)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Llandyfrydog
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru "Anglesey" (1837-1894).

Plwyfi Llandyfrydog, Coedana, Llanfihangel Tre'r Beirdd, Llanfair Mathafarn Eithaf, Llanddyfnan, Pentraeth, Llanbedrgoch, Llaneugrad, Llanallgo, Penrhoslligwy.

Erbyn hyn mae'r cofrestri yn Ynys Môn (Llangefni)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Llanfechell
Crëwyd 1 Ionawr 1895.
Yn Rhanbarth Cofrestru "Anglesey" (1895-1937).

Erbyn hyn mae'r cofrestri yn Ynys Môn (Llangefni)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Llangefni
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru "Anglesey" (1837-1937).
Yn Rhanbarth Cofrestru "Anglesey East" (1937-1958).
Cyfuned ag Isranbarth Amlwch yn 1958.

Plwyfi Llangefni, Tregaean, Llangwyllog, Llangristiolus, Heneglwys, Cerrigceinwen, Llangadwaladr, Aberffraw.

Erbyn hyn mae'r cofrestri yn Ynys Môn (Llangefni)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Llangefni ac Amlwch
Crëwyd 1 Hydref 1958.
Yn Rhanbarth Cofrestru "Anglesey East" (1958-1961).

Erbyn hyn mae'r cofrestri yn Ynys Môn (Llangefni)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Caergybi
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru "Anglesey" (1837-1885).
Yn Rhanbarth Cofrestru "Holyhead" (1885-1937).
Yn Rhanbarth Cofrestru "Anglesey West" (1937-1963).

Plwyfi Caergybi, Bodedern, Llanynghenedl, Llanfair yn Neubwll, Llanfihangel yn Nhowyn, Rhoscolyn.

Erbyn hyn mae'r cofrestri yn Ynys Môn (Llangefni)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Llanfairpwll
Crëwyd 1 Ionawr 1912.
Yn Rhanbarth Cofrestru Bangor (1912-1937).

Erbyn hyn mae'r cofrestri yn Ynys Môn (Llangefni)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Biwmares a Llangefni
Crëwyd 1961.
Yn Rhanbarth Cofrestru "Anglesey East" (1961-1963).

Erbyn hyn mae'r cofrestri yn Ynys Môn (Llangefni)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Biwmares a Llanidan
Crëwyd 1 Hydref 1958.
Yn Rhanbarth Cofrestru "Anglesey East" (1958-1961).

Erbyn hyn mae'r cofrestri yn Ynys Môn (Llangefni)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Llanidan
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Caernarfon (1837-1937).
Yn Rhanbarth Cofrestru "Anglesey East" (1937-1958).

Plwyfi Llanidan, Llangeinwen, Niwbwrch, Llangaffo, Llanfair yn y Cwmwd.

Erbyn hyn mae'r cofrestri yn Ynys Môn (Llangefni)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Dyffryn
Crëwyd 1 Ebrill 1923.
Yn Rhanbarth Cofrestru "Holyhead" (1923-1937).
Yn Rhanbarth Cofrestru "Anglesey West" (1937-1963).

Erbyn hyn mae'r cofrestri yn Ynys Môn (Llangefni)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Ynys Cybi
Crëwyd 1 Gorffennaf 1979.
Yn Ynys Môn Rhanbarth Cofrestru (1979-????).

Erbyn hyn mae'r cofrestri yn Ynys Môn (Llangefni)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Ynys Môn
Crëwyd 1 Ebrill 1974.
Yn Ynys Môn Rhanbarth Cofrestru (1974-????).

Erbyn hyn mae'r cofrestri yn Ynys Môn (Llangefni)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Abergele
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Llanelwy (1837-1935).
Yn Rhanbarth Cofrestru Aled (1935-1968).

Abergele, Betws-yn-Rhos, Llanddulas, Llanfair Talhaearn, Llan Sain Siôr (Cegidog).

Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mwrdeistref Sirol Conwy (Swyddfa Llandudno)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Bae Colwyn
Crëwyd 1 Ebrill 1902.
Yn Rhanbarth Cofrestru Conwy (1902-1935).
Yn Rhanbarth Cofrestru Aled (1935-1974).

Plwyfi sifil Eirias, Llysfaen, Llandrillo yn Rhos, Llaneilian, Llansanffraid Glan Conwy. (Yn cynnwys Bae Colwyn a Hen Golwyn).
Ar 1 Hydref 1935, trosglwyddwyd isranbarth Bae Colwyn i Ranbarth Cofrestru newydd Aled.

Erbyn hyn, mae'r cofrestri yn Swyddfa Gofrestru Bwrdeistref Sirol Conwy (Llandudno).

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth y Bala
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru'r Bala (1837-1935).
Yn Rhanbarth Cofrestru Dwyrain Meirionnydd (1935 - 1950 +)

Llandderfel, Llanfor / Llanfawr, Llangower / Llangywer, Llanycil (gan gynnwys tref y Bala), Llanuwchllyn.

Erbyn hyn mae'r cofnodion yng Ngwynedd (Caernarfon)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Bangor
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Bangor (1837 - 1950+).

Plwyfi Bangor a Llandygái.

Ar 1 Awst 1886, trosglwyddwyd plwyf Llandygái o isranbarth Bangor i isranbarth Llanllechid , a throsglwyddwyd plwyfi Aber a Llanfairfechan o isranbarth Llanllechid i isranbarth Bangor.

Ar 1 Ionawr 1899, trosglwyddwyd plwyfi sifil Aber a Llanfairfechan o isranbarth Bangor i isranbarth newydd Llanfairfechan.

Erbyn hyn mae'r cofrestri yng Ngwynedd (Caernarfon)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth y Bermo
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Dolgellau (1837 - 1935).
Yn Rhanbarth Cofrestru De Meirionnydd (1935 - 1950 +)

Dolgellau, Llanaber (gan gynnwys tref y bermo), Llanddwywe, Llanelltyd, Llanenddwyn, Llanfachreth.

Erbyn hyn mae'r cofnodion yng Ngwynedd (Caernarfon)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Betws-y-coed
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Llanrwst (1837-1935).

Plwyfi Betws-y-coed, Dolwyddelan, Llanrhychwyn, Trefriw; a threfgordd Gwydir.
Yn Rhanbarth Cofrestru Conwy (1935-1937).
Ar 1 Hydref 1935, ad-drefnwyd isranbarth Betws-y-coed yn helaeth a'i drosglwyddo i Ranbarth Cofrestru Conwy.

Plwyfi sifil Betws-y-coed, Dolwyddelan, Llanrhychwyn, Trefriw, Maenan, Yr Abaty, a rhannau o blwyfi sifil Capel Curig a Dolgarrog.
Yn Rhanbarth Cofrestru Dyffryn Conwy (1937-1974).
Ar 1 Ebrill 1937, trosglwyddwyd isranbarth Betws-y-coed i Ranbarth Cofrestru newydd Dyffryn Conwy.

Erbyn hyn, mae'r cofrestri yn Swyddfa Gofrestru Bwrdeistref Sirol Conwy (Llandudno).

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Caernarfon
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Caernarfon (1837 - 1950+).

Plwyfi Llanbeblig (gan gynnwys bwrdeistref Caernarfon) a Llanfaglan.

Ar 1af Ebrill 1937, trosglwyddwyd rhannau o isranbarth Llandwrog i isranbarth Caernarfon.

Ar 1af Ebrill 1949, unwyd isranbarthau Caernarfon a Llanrug, a chafodd yr isranbarth newydd yr enw Caernarfon a Llanrug.

Erbyn hyn mae'r cofrestri yng Ngwynedd (Caernarfon)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Ceri
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru'r Drenewydd.

Plwyfi Ceri a Mochdre.

Diddymwyd isranbarth Ceri yn 1923 a'i gyfuno ag isranbarth y Drenewydd.

Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mhowys (Llandrindod)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Conwy
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Conwy (1837-1937).

Plwyfi Dwygyfylchi, Conwy, Gyffin.
Ar 1 Hydref 1882, diddymwyd isranbarth Llechwedd Isaf a'i gyfuno ag isranbarth Conwy.
Ar 1 Ebrill 1902, trosglwyddwyd plwyf sifil Llanrhos i isranbarth Conwy o isranbarth Creuddyn.
Ar 1 Mai 1927, trosglwyddwyd plwyf sifil Llanrhos o isranbarth Conwy i isranbarth Llandudno.
Yn Rhanbarth Cofrestru "Conwy Valley" (1937-1949).
Ar 1 Ebrill 1937, trosglwyddwyd isranbarth Conwy i Ranbarth Cofrestru newydd "Conwy Valley".
Ar 1 Ebrill 1949, diddymwyd isranbarth Conwy.
Cyfunwyd isranbarthau Conwy a Llandudno ac enwyd yr isranbarth newydd yn isranbarth Conwy a Llandudno.

Erbyn hyn, mae'r cofrestri yn Swyddfa Gofrestru Bwrdeistref Sirol Conwy (Llandudno).

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Corwen (1)
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Corwen (1837 - 1880).

Bryneglwys, Corwen, Llanarmon Dyffryn Ceiriog, Llangollen, Llansanffraid Glyn Ceiriog, Llansanffraid Glyndyfrdwy, Llandysilio yn Iâl.

Diddymwyd Isranbarth Corwen (1) ar 30 Medi 1880.

Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Rhanbarth Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Wrecsam)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Corwen (2)
Crëwyd 1 Hydref 1880.
Yn Rhanbarth Cofrestru Corwen (1880 - 1935).
Yn Rhanbarth Cofrestru Dwyrain Meirionnydd (1935 - 1939).

Betws Gwerful Goch, Cerrigydrudion, Corwen, Gwyddelwern, Llandrillo yn Edeirnion, Llanfihangel Glyn Myfyr, Llangar, Llangwm, Llansanffraid Glyndyfrdwy.

Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Rhanbarth De Sir Ddinbych (Rhuthun)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Creuddyn
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Conwy (1837-1902).

Eglwysrhos, Llandudno, Llandrillo yn Rhos, Llangystennin, Llysfaen, Llansanffraid Glan Conwy, a threfgordd Eirias. (Yn cynnwys Bae Colwyn a Hen Golwyn heddiw)

Ym mis Awst 1839, diddymwyd isranbarth Llaneilian a'i gyfuno ag isranbarth Creuddyn.

Ar 1 Ebrill 1902, diddymwyd isranbarth Creuddyn.
Trosglwyddwyd plwyf sifil Llanrhos i isranbarth Conwy; a chrewyd dau isranbarth newydd - Llandudno a Bae Colwyn.

Erbyn hyn, mae'r cofrestri yn Swyddfa Gofrestru Bwrdeistref Sirol Conwy (Llandudno).

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Cyffylliog
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Rhuthun (1837 - 1902)

Cyffylliog, Clocaenog a Nantglyn.

Ar 1af Awst 1902, diddymwyd Isranbarth Cyffylliog.
Trosglwyddwyd Cyffylliog i Isranbarth Llanelidan.
Trosglwyddwyd Clocaenog i Isranbarth Rhuthun.
Trosglwyddwyd Nantglyn i Isranbarth Llanrhaeadr.

Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Rhanbarth De Sir Ddinbych (Rhuthun)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Chwitffordd
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Treffynnon (1837-1961).

Caerwys, Gwaunysgor, Llanasa, Trelawnyd, Chwitfordd.

Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Sir y Fflint (Yr Wyddgrug)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Darowen
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Machynlleth (1837-1917).

Plwyfi Llanbryn-mair, Cemais a Darowen.
Ar 1 Hydref 1917, unwyd isranbarth Darowen gydag is-ranbarth Machynlleth, gan alw'r isranbarth newydd yn isranbarth Machynlleth.

Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mhowys (Llandrindod)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Dinbych
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Llanelwy (1837 - 1935).

Dinbych, Henllan, Bylchau, Cefn Meiriadog, Llannefydd, Llansannan, Trefnant.
Yn Rhanbarth Cofrestru Rhuthun (1935 - 1974).
Dinbych, Nantglyn, Aberchwiler (Bodfari), Llandyrnog, Llanrhaeadr yng Nghinmeirch.

Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Rhanbarth De Sir Ddinbych (Rhuthun)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Y Drenewydd
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru'r Drenewydd.

Plwyfi'r Drenewydd a Llanllwchaearn.

Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mhowys (Llandrindod)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Ffestiniog
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Ffestiniog (1837 - 1935).
Yn Rhanbarth Cofrestru Gogledd Meirionnydd (1935 - 1950 +)

Ffestiniog, Trawsfynydd, Maentwrog, Llanfrothen.
Ar 1 Mehefin 1899, trosglwyddwyd Llanfrothen o isranbarth Ffestiniog i isranbarth Deudraeth.

Erbyn hyn mae'r cofrestri yn Ngwynedd (Caernarfon)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth y Fflint
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Treffynnon (1837-1974).

Y Fflint, Cei Connah, Helygain, Llaneurgain, Rhosesmor / Caerfallwch, Sychdyn.

Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Sir y Fflint (Yr Wyddgrug)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Glyndŵr
Crëwyd 1 Ebrill 1974.
Yn Rhanbarth Cofrestru Rhuthun (1974 - 1996).

Aberchwiler, Betws Gwerful Goch, Bryneglwys, Clocaenog, Corwen, Cyffylliog, Cynwyd, Dinbych, Derwen, Efenechtid, Gwyddelwern, Henllan, Llanarmon yn Iâl, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Llandegla, Llandrillo yn Edeirnion, Llandyrnog, Llanelidan, Llanfair Dyffryn Clwyd, Llanferres, Llangollen, Llanrhaeadr, Llandysilio-yn-Iâl, Llanynys, Nantglyn, Rhuthun, Trefnant.

Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Rhanbarth De Sir Ddinbych (Rhuthun)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Gwyddelwern
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Corwen (1837 - 1880).

Betws Gwerful Goch, Cerrigydrudion, Gwyddelwern, Llandrillo yn Edeirnion, Llanfihangel Glyn Myfyr, Llangar, Llangwm.

Diddymwyd Isranbarth Gwyddelwern ar 30 Medi 1880.

Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Rhanbarth De Sir Ddinbych (Rhuthun)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Hanmer
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Ellesmere (1837 - 1911).

Hanmer, Llys Bedydd, Bronington, Halghton, Tybroughton, Willington ac Iscoed / Whitewell.

Yn 1853, trosglwyddwyd Iscoed / Whitewell i isranbarth Whitchurch yn Rhanbarth Cofrestru Whitchurch.

Ar 31 Rhagfyr 1911, unwyd isranbarth Hanmer ag isranbarth Owrtyn yn Rhanbarth Cofrestru Ellesmere, a pheidiodd â bod yn isranbarth ar wahân.
Erbyn hyn mae'r cofrestri yn Swyddfa Gofrestru Wrecsam

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Holt
Crëwyd 1 April 1853.
Yn Rhanbarth Cofrestru Wrecsam (1853 - 1950+).

Plwyfi Bangor is y Coed, Holt, Isycoed, Marchwiail, Threapwood a Gwyrddymp (i gyd yng Nghymru); a'r trefgorddau canlynol yn Sir Gaer: Church Shocklach, Shocklach Oviatt.

Arhosodd trefgorddau Church Shocklach a Shocklach Oviatt yn isranbarth Holt tan 1896, pryd y trosglwyddwyd hwy i Ranbarth Cofrestru Caer.

Ar 1 Hydref 1911, trosglwyddwyd Abenbury Fawr, Acton, Boras Hwfa, Boras Riffre, Erlas, Gourton a Llai i isranbarth Holt o isranbarth Wrecsam.
(Gwelwch hefyd isranbarth Malpas)

Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Wrecsam

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth yr Hôb
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Wrecsam (1853 - 1871).

Plwyfi Treuddyn a'r Hôb, "arglwyddiaeth" Merfordd a Hoseli, a threfgorddau Trefalun, Brymbo, Burton, Groesffordd, Gwersyllt a Llai.

Ar 1 Awst 1871, diddymwyd isranbarth yr Hôb.
Trosglwyddwyd Burton a'r Groesffordd i isranbarth Holt yn Wrecsam; trosglwyddwyd Trefalun, Brymbo, Gwersyllt a Llai i isranbarth Wrecsam; a throsglwyddwyd yr Hôb, Treuddyn, Merffordd a Hoseli i isranbarth Penarlâg (oedd yn rhanbarth cofrestru Caer ar y pryd).

Erbyn hyn mae'r cofrestri yn Swyddfa Gofrestru Wrecsam (Wrecsam)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Llanarmon yn Iâl
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Rhuthun (1837 - 1935).

Llanarmon (yn Iâl), Llandegla, Llanferres.

Ar 1af Hydref 1935, cyfunwyd Isranbarth Llanarmon ag Isranbarth Rhuthun, a daeth i ben fel Isranbarth ar wahân.

Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Rhanbarth De Sir Ddinbych (Rhuthun)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Llandudno
Crëwyd 1 Ebrill 1902.
Yn Rhanbarth Cofrestru Conwy (1902-1937).

Plwyfi sifil Eglwysrhos, Llandudno, Llangystennin, Penrhyn.
Ar 1 Mai 1927, trosglwyddwyd plwyf sifil Llanrhos o isranbarth Conwy i isranbarth Llandudno.
Yn Rhanbarth Cofrestru "Conwy Valley" (1937-1949).
Ar 1 Ebrill 1949, diddymwyd isranbarth Llandudno.
Cyfunwyd isranbarthau Conwy a Llandudno ac enwyd yr isranbarth newydd yn isranbarth Conwy a Llandudno.

Erbyn hyn, mae'r cofrestri yn Swyddfa Gofrestru Bwrdeistref Sirol Conwy (Llandudno).

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Llandwrog
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Caernarfon (1837-1950 +).

Plwyfi Llandwrog, Clynnog, Llanllyfni a Llanwnda.

Ar 1af Ebrill 1937, trosglwyddwyd rhannau o isranbarth Llandwrog i isranbarth Caernarfon.

Erbyn hyn mae'r cofrestri yng Ngwynedd (Caernarfon)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Llandyrnog
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Rhuthun (1837 - 1935).

Llandyrnog, Llangwyfan, Llangynhafal; ynghyd â threfgordd Aberchwiler.

Ar 1af Chwefror 1906, trosglwyddwyd Aberchwiler a rhannau o Landyrnog i Isranbarth Llanrhaeadr.

Ar 1af Hydref 1935, cyfunodd Isranbarth Llandyrnog ag Isranbarth Rhuthun, a daeth i ben fel Isranbarth ar wahân.

Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Rhanbarth De Sir Ddinbych (Rhuthun)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Llaneilian (yn Rhos)
Crëwyd 1 Gorffenaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Conwy (1837 - 1839).

Plwyf Llaneilian.
Yn Awst 1839, diddymwyd isranbarth Llaneilian a'i gyfuno ag isranbarth Creuddyn.

Erbyn hyn, mae'r cofrestri yn Swyddfa Gofrestru Bwrdeistref Sirol Conwy (Llandudno).

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Llanelidan
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Rhuthun (1837 - 1935)

Llanelidan, Derwen, Llanfair Dyffryn Clwyd.

Ar 1af Hydref 1935, cyfunodd Isranbarth Llanelidan ag Isranbarth Rhuthun, a daeth i ben fel Isranbarth ar wahân.

Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Rhanbarth De Sir Ddinbych (Rhuthun)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Llanelwy
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Llanelwy (1837 - 1974).

Bodfari (rhan), Cwm, Y Ddiserth, Allt Melyd, Prestatyn, Rhuddlan, Y Rhyl, Llanelwy, Tremeirchion.

Ar 1 Mehefin 1919, trosglwyddwyd rhannau o'r Rhyl, Rhuddlan, Allt Melyd a Phrestatyn i Isranbarth newydd y Rhyl.

Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Rhanbarth Gogledd Sir Ddinbych (Y Rhyl)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Llanfair Caereinion
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Llanfyllin.

Llanfair Caereinion, Llangyniew / Llangynyw, Llanerfyl, Llangadfan, Llanfihangel yng Ngwynfa, Garthbeibio.

Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mhowys (Swyddfa Llandrindod)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Llanfairfechan
Crëwyd 1 Ionawr 1899.
Yn Rhanbarth Cofrestru Bangor (1899 - 1954).

Plwyfi sifil Aber a Llanfairfechan.

Ar 1 Ionawr 1899, trosglwyddwyd plwyfi sifil Aber a Llanfairfechan o isranbarth Bangor i isranbarth newydd Llanfairfechan.

Diddymwyd isranbarth Llanfairfechan yn 1954.

Erbyn hyn, mae'r cofrestri yng Ngwynedd (Caernarfon)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Llanfihangel-y-traethau
(Newidiwyd yr enw i Deudraeth ar 1 Mehefin 1899)

Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Ffestiniog (1837 - 1935).
Yn Rhanbarth Cofrestru Gogledd Meirionnydd (1935 - 1950 +)

Llanbedr, Llanfair Harlech, Llandanwg, Llanfihangel-y-traethau, Llandecwy.
Ar 1 Mehefin 1899, trosglwyddwyd Llanfrothen o isranbarth Ffestiniog i isranbarth Deudraeth.

Erbyn hyn mae'r cofrestri yn Ngwynedd (Caernarfon)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Llangollen
Crëwyd 1 Hydref 1880.
Yn Rhanbarth Cofrestru Corwen (1880 - 1935).
Yn Rhanbarth Cofrestru Wrecsam (1935 - 1950 +).

Bryneglwys, Llanarmon Dyffryn Ceiriog, Llangollen, Llansanffraid Glyn Ceiriog, Llandysilio yn Iâl.

Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Rhanbarth Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Wrecsam)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Llanidloes Isaf
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru'r Drenewydd.

Plwyfi Trefeglwys a Llanidloes (rhan).

Cyfunwyd isranbarthau Llanidloes Isaf ac Uchaf ym mis Ionawr 1896 ac enwyd yr isranbarth newydd yn Llanidloes.

Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mhowys (Llandrindod)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Llanidloes Uchaf
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru'r Drenewydd.

Plwyfi Llangurig a Llanidloes (rhan).

Cyfunwyd isranbarthau Llanidloes Uchaf ac Isaf ym mis Ionawr 1896 ac enwyd yr isranbarth newydd yn Llanidloes.

Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mhowys (Llandrindod)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Llanidloes
Crëwyd y mis Ionawr 1896.
Yn Rhanbarth Cofrestru'r Drenewydd.

Cyfunwyd isranbarthau Llanidloes Uchaf ac Isaf ym mis Ionawr 1896 ac enwyd yr isranbarth newydd yn Llanidloes.

Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mhowys (Llandrindod)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Llanllechid
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Bangor (1837-1950 +)

Plwyfi Llanllechid, Aber a Llanfairfechan.
Ar 1 Awst 1886, trosglwyddwyd plwyf Llandegai o isranbarth Bangor i isranbarth Llanllechid, a throsglwyddwyd plwyfi Aber a Llanfairfechan o isranbarth Llanllechid i isranbarth Bangor.

Erbyn hyn, mae'r cofrestri yng Ngwynedd (Caernarfon)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Llanrhaeadr ym Mochnant
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Llanfyllin.

Llanarmon Mynydd Mawr, Llangadwaladr, Llangedwyn, Llanrhaeadr ym Mochnant, Hirnant, Llangynog, Llanwddyn, Pennant.

Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mhowys (Swyddfa Llandrindod)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Llanrhaeadr yng Nghinmeirch
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Rhuthun (1837 - 1935).

Llanrhaeadr yng Nghinmeirch a Llanynys.

Ar 1af Hydref 1935, cyfunodd Isranbarth Llanrhaeadr ag Isranbarth Rhuthun, a daeth i ben fel Isranbarth ar wahân.

Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Rhanbarth De Sir Ddinbych (Rhuthun)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Llanrug
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Caernarfon (1837 - 1949).

Plwyfi Llanrug, Betws Garmon, Llanberis, Llanddeiniolen, Llanfair-is-gaer.

Ar 1af Ebrill 1949, cyfunwyd isranbarth Llanrug ag isranbarth Caernarfon, a pheidiodd â bod yn isranbarth ar wahân.

Erbyn hyn mae'r cofrestri yng Ngwynedd (Caernarfon)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Llanrwst
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Llanrwst (1837-1935).
Yn Rhanbarth Cofrestru Hiraethog (1935-1974).

Capel Garmon, Eglwysbach, Gwytherin, Llanddoged, Llangernyw, Llanrwst (heblaw trefgordd Gwedir), Maenan, Yr Abaty.

Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mwrdeistref Sirol Conwy (Swyddfa Llandudno)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Llansanffraid ym Mechain
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Llanfyllin.

Plwyfi Llandrinio, Llandysilio yn Neuddwr, Llanfechain, Llanfyllin, Llansanffraid ym Mechain a Meifod; ynghyd â threfgordd Carreghwfa ym mhlwyf Llanymynech.

Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mhowys (Swyddfa Llandrindod)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Llansilin
Crëwyd 1 July 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Croesoswallt (1837 - 1935).

"Y rhan honno o blwyf Llansilin sy'n gorwedd yn nwy drefgordd Llansilin a Sycharth".

Ar 1 Awst 1906, trosglwyddwyd Selatyn, Sychdyn a Llanyblodwel o isranbarth Llansilin i isranbarth Croesoswallt.

At 1 Hydref 1935, unwyd isranbarth Llansilin ag isranbarth Llangollen yn rhanbarth Wrecsam, a pheidiodd â bod yn isranbarth ar wahân.

Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Llanwnog
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru'r Drenewydd.

Plwyfi Llanwnog, Carno, Penystrywaid, Aberhafesb a Llandinam.

Diddymwyd isranbarth Llanwnog yn 1935.

Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mhowys (Llandrindod)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Llechwedd Isaf
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Conwy (1837-1882).

Plwyfi Llangelynnin, Caerhun, Llanbedr y Cennin a threfgordd Dolgarrog.
Ar 1 Hydref 1882, diddymwyf isranbarth Llechwedd Isaf a'i gyfuno ag isranbarth Conwy.

Erbyn hyn mae'r cofrestri yn Swyddfa Gofrestru Bwrdeistref Sirol Conwy (Llandudno)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Machynlleth
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Machynlleth (1837-1917).

Machynlleth a Phenegoes, ynghyd â threfgordd Ysgubor y Coed o blwyf cyfagos Llanfihangel Genau'r-Glyn yn Sir Aberteifi.

Ar 1 Ebrill 1904, tynnwyd plwyfi Penegoes ac Ysgubor y Coed o isranbarth Machynlleth a'u hychwanegu at isranbarthau Darowen a Thywyn yn ôl eu trefn.
Ar 1 Hydref 1917, cyfunwyd isranbarthau Machynlleth a Darowen, gan roi enw Machynlleth ar yr isranbarth newydd.
Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mhowys (Llandrindod)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Malpas
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Wrecsam (1837 - 1853).

Plwyfi Bangor Is y Coed, Holt, Isycoed, Marchwiail, Threapwood a Gwyrddymp (i gyd yng Nghymru); a'r trefgorddau canlynol yn Sir Gaer: Shocklach Church, Shocklach Oviatt, Agden, Bradley, Chidlow, Chorlton, Cuddington, Malpas, Newton juxta Malpas, Oldcastle, Overton, Stockton, Wichough ac Wigland.

Ar 1 Ebrill 1853, ailenwyd isranbarth Malpas yn isranbarth Holt. Ar yr un pryd, trosglwyddwyd y trefgorddau yn Sir Gaer (heblaw Church Shocklach a Shocklach Oviatt) i Ranbarth Cofrestru Whitchurch (Sir Amwythig).

Arhosodd trefgorddau Church Shocklach a Shocklach Oviatt yn isranbarth Holt hyd 1896 pryd y cawsant eu trosglwyddo i Ranbarth Cofrestru Caer.

Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Wrecsam

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Meifod
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Llanfyllin.

Diddymwyd isranbarth Meifod yn 1841 a'i gyfuno ag isranbarth Llansanffraid ym Mechain.

Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mhowys (Swyddfa Llandrindod)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Owrtyn
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Ellesmere (1837-1935)
Yn Rhanbarth Cofrestru Owrtyn (1935-1950 +)

Plwyf Owrtyn a chapel anwes Llannerch Banna.

Ar 1 Medi 1897, trosglwyddwyd Bangor Is-coed a Gwyrddymp i isranbarth Owrtyn o isranbarth Holt.

Ar 31 Rhagfyr 1911, unwyd isranbarth Hanmer ag isranbarth Owrtyn. Peidiodd Hanmer â bod yn isranbarth ar wahân.

Ar 1 Hydref 1935, diddymwyd rhanbarth cofrestru Ellesmere a throsglwyddwyd isranbarth Owrtyn i ranbarth cofrestru newydd Owrtyn.

Erbyn hyn mae'r cofrestri yn Swyddfa Gofrestru Wrecsam

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Pennal / Towyn (Tywyn)
(Newidiwyd yr enw o Pennal i Towyn (Tywyn) rhwng 1878 a 1884).
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Machynlleth (1837 - 1935).
Yn Rhanbarth Cofrestru De Meirionnydd (1935 - 1950 +)

Llanwrin, Pennal, Tywyn (gan gynnwys tref Aberdyfi).

Ar 1 ebrill 1904, daeth plwyf sifil Llanwrin yn rhan o isranbarth Darowen; a symudwyd plwyf sifil Ysgubor y Coed o isranbarth Machynlleth i isranbarth Pennal / Tywyn.
Ar 1 mehefin 1924, symudwyd plwyfi sifil Pennal ac Ysgubor y Coed i isranbarth Machynlleth.
Erbyn hyn mae'r cofnodion yng Ngwynedd (Caernarfon)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Penarlâg
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Great Boughton (1837-1870).
Yn Rhanbarth Cofrestru Caer (1871-1902).
Daeth yn Rhanbarth Cofrestru Penarlâg ar 1 Ionawr 1903.

1837-1853: Dodleston, Eaton, Eccleston, Penarlâg, Higher Kinnerton, Lower Kinnerton, Marlston-cum-Lache, Poulton, Pulford, Saltney.
1853-1870: Fel yr uchod, ynghyd â:

Great Saughall, Little Saughall, Shotwick, Shotwick Park, Woodbank.
1871-1903: Penarlâg, Yr Hôb, Treuddyn, Merffordd a Hoseli.

Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Sir y Fflint (Yr Wyddgrug)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Penmaenmawr
Crëwyd 1 Ebrill 1937.
Yn Rhanbarth Cofrestru Dyffryn Conwy (1937-1950 +).

Erbyn hyn, mae'r cofrestri ym Mwrdeistref Sirol Conwy (Swyddfa Llandudno)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Rhiwabon
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Wrecsam.

Plwyfi Erbistog a Rhiwabon (gan gynnwys Acre-fair, Cefn Mawr, Johnstown, Pen-y-cae, Rhosllanerchrugog, Rhosymedre, Rhiwabon).

Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Rhuthun
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Rhuthun (1837 - 1974).

Rhuthun, Efenechtid, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Llanfwrog, Llanrhudd, Llanhychan.

Ar 1af Hydref 1935, dilewyd Isranbarthau Llanarmon yn Iâl, Llandyrnog, Llanelidan a Llanrhaeadr yng Nghinmeirch, a'u cyfuno ag Isranbarth Rhuthun.

Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Rhanbarth De Sir Ddinbych (Rhuthun)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Rhuddlan
Crëwyd 1 Ebrill 1974.
Yn Rhanbarth Cofrestru Rhuddlan (1974-2011 +)

Bodelwyddan, Bodfari, Cefn Meiriadog, Cwm, Y Ddiserth, Gallt Melyd, Llanelwy, Prestatyn, Rhuddlan, Y Rhyl, Tremeirchion.

Erbyn hyn mae'r cofrestri yn Swyddfa Gogledd Sir Ddinbych (Y Rhyl).

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth y Rhyl
Crëwyd 1 Mehefin 1919.
Yn Rhanbarth Cofrestru Llanelwy (1919 - 1974).

Crëwyd o rannau o'r Rhyl, Rhuddlan, Allt Melyd a Phrestatyn, oedd gynt yn Isranbarth Llanelwy.

Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Rhanbarth Gogledd Sir Ddinbych (Y Rhyl)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Talyllyn
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Dolgellau (1837 - 1935).
Yn Rhanbarth Cofrestru De Meirionnydd (1935 - 1950 +)

Llanegryn, Llangelynnin, Llanfihangel y Pennant, Llanymawddwy, Mallwyd, Talyllyn.
Erbyn hyn mae'r cofnodion yng Ngwynedd (Caernarfon)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Trefaldwyn
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Trefaldwyn (1837-1870).
Yn Rhanbarth Cofrestru Ffordun (1870-1935).
Yn Rhanbarth Cofrestru'r Trallwng (1935- ).

Plwyfi Aberriw, Trefaldwyn, Llandysul, Llamyrewig, Mainstone (trefgordd Castlewright), Lydham (trefgordd Aston), Yr Ystog (rhan).

Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mhowys (Swyddfa Llandrindod)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Treffynnon
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Treffynnon (1837-1974).

Treffynnon, Bagillt, Brynford, Gorsedd, Maesglas, Nannerch (gan gynnwys Penbedw), Rhesycae, Ysgeifiog.

Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Sir y Fflint (Yr Wyddgrug)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Tregynon
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru'r Drenewydd.

Plwyfi Betws Cedewain, Llanllugan, Llanwyddelan, Manafon a Thregynon.

Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mhowys (Llandrindod)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth y Trallwng
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Trefaldwyn (1837-1870).
Yn Rhanbarth Cofrestru Ffordun (1870-1935).
Yn Rhanbarth Cofrestru'r Trallwng (1935- ).

Belan, Tal-y-bont, Castell Caereinion Drefol, Cledrwd, Frachus, Garreg Bank, Tre-wern, Llwynderw, Trewern, Y Trallwng, Brunant, Castell Caereinion Weldig, Trelystan, Treberfedd, Pentre, Ucheldre

Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mhowys (Swyddfa Llandrindod)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Wrecsam
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Wrecsam.

Abenbury Fawr, Abenbury Fechan, Acton, Y Bers, Bieston, Borras Hwfa, Borras Riffri, Broughton, Esclus Uwch y Clawdd, Esclus Is y Clawdd, Erddig, Erlas, Gourton, Y Mwynglawdd, Stansty, Wrecsam yr Abad, Wrecsam y Brenin.

Ar 1 Hydref 1911, trosglwyddwyd Abenbury Fawr, Acton, Boras Hwfa, Boras Riffre, Erlas, Gourton a Llai o isranbarth Wrecsam i isranbarth Holt.

Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth yr Wyddgrug
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Treffynnon (1837-1974).

Cilcain, Yr Wyddgrug, Croesesgob, Waunyrwyddfid, Coed-llai, Pontbleiddyn a Nercwys.
Ar 1 Gorffennaf 1901, trosglwyddwyd Croesesgob i isranbarth Rhif 4 ("Penarlâg") Rhanbarth Cofrestru Caer.

Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Sir y Fflint (Yr Wyddgrug)

Yn ôl i ben y dudalen


Isranbarth Ysbyty (Ifan)
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Llanrwst (1837-1935).

Plwyfi Penmachno, Pentrefoelas, Ysbyty Ifan; trefgorddau Eidda, Tir Ifan a Threbrys ; Gwernhowel (allblwyfol).
Yn Rhanbarth Cofrestru Conwy (1935-1937).
Ar 1 Hydref 1935, ad-drefnwyd isranbarth Ysbyty.

Plwyfi sifil Eidda a Phenmachno.

Diddymwyd isranbarth Ysbyty ar 1 Ebrill 1937 a'i gyfuno ag isranbarth Llanrwst yn Rhanbarth Cofrestru Hiraethog.

Erbyn hyn mae'r cofrestri yn Swyddfa Gofrestru Llandudno

Yn ôl i ben y dudalen