
GWYBODAETH AM DYSTYSGRIFAU GENEDIGAETH
TYSTYSGRIF SAFONOL
Copi llawn o gofnod genedigaeth sy'n cynnwys manylion am rieni a chofrestru.
TYSTYSGRIF FER
Dim ond yr enw a'r cyfenw, rhyw, dyddiad geni ac enw'r rhanbarth sydd ar dystysgrif fer. Mae gofyn i chi ddweud yr union ddyddiad a man geni ac enw llawn a chyfenw'r person ar y dystysgrif sydd arnoch ei hangen, gyda (hyd y gwyddoch) enwau a chyfenwau'r rhieni ac enw morwynol y fam. Os ydych eisiau tystysgrif enedigaeth fer ac yn gallu rhoi manylion llawn, llenwch y ffurflen. Os na fyddwch yn rhoi'r manylion llawn, efallai na chewch dystysgrif. |
GWYBODAETH AM DYSTYSGRIFAU MABWYSIADU
Y Cofrestrydd Cyffredinol sy'n dal cofnodion mabwysiadu yng Nghymru a Lloegr. Mae'r rhain yn berthynol i bobl sydd wedi cael eu mabwysiadu ers 1 Ionawr 1927 o dan y Deddfau Mabwysiadu. Mae tystysgrif safonol yn gopi llawn o'r cofnod yng Nghofrestr Plant a Fabwysiadwyd ac mae'n rhoi, yn lle manylion o'r rhieni a chofrestru'r enedigaeth, y dyddiad geni (os yw'n hysbys) a manylion y mabwysiadu a'r rhieni sy'n mabwysiadu. Nid yw tystysgrif fer yn dangos dim ond yr enw, heb unrhyw gyfeiriad at fabwysiadu. Dylech wneud ceisiadau am Dystysgrifau Mabwysiadu yn ysgrifenedig i: |
CEISIADAU DRWY'R POST
Os byddwch yn gwneud cais drwy'r post llenwch y ffurflen hon ac amgáu amlen barod â stamp a'r tâl priodol mewn sterling. Mae gwybodaeth am gost tystysgrifau i'w chael o unrhyw swyddfa gofrestru. Dylai pob tâl fod yn daladwy i'r awdurdod priodol fel y gwelwch yma a dylid croesi sieciau "/& Co/". Dylid anfon y ffurflen gais hon at Gofrestrydd Arolygol y rhanbarth lle'r oedd yr enedigaeth. |
CHWILIO'R MYNEGEION GENEDIGAETHAU
Nid oes gan y Cofrestryddion Arolygol staff i wneud gwaith chwilio amhendant neu hirwyntog. Fel arfer byddant yn chwilio yn y mynegai genedigaethau dros gyfnod heb fod yn fwy na 5 mlynedd, ond yn unig lle byddant wedi cael manylion cywir am gofrestru'r enedigaeth. Os bydd angen chwilio ymhellach bydd gofyn i chi neu rywun ar eich rhan wneud CHWILIAD CYFFREDINOL yn y mynegeion. I gael rhagor o wybodaeth gwelwch isod ac yna gofynnwch i'r Cofrestrydd Arolygol. CHWILIADAU CYFFREDINOL YN SWYDDFA'R COFRESTRYDD AROLYGOL
Mae'r mynegeion yn swyddfa'r Cofrestrydd Arolygol yn perthyn i enedigaethau, priodasau a marwolaethau a fu yn rhanbarth y Cofrestrydd Arolygol yn unig. CHWILIAD CYFFREDINOL yw pan fydd person neu rywun ar ran y person yn cael hawl i chwilio yn y mynegeion am gyfnod heb fod dros chwe awr yn olynol. Trwy drefniant gyda'r Cofrestrydd Arolygol gall person sy'n gwneud CHWILIAD CYFFREDINOL gael gweld y mynegeion i'r cofrestri genedigaethau, priodasau a marwolaethau ond nid y cofrestri eu hunain. Mae tystysgrif o unrhyw gofnod arbennig i'w chael ar ôl llenwi ffurflen gais a thalu'r swm priodol. Os yw person sy'n gwneud CHWILIAD CYFFREDINOL yn ansicr ar ôl gweld enw yn y mynegeion os mai dyma'r person cywir, bydd y Cofrestrydd Arolygol, o dderbyn manylion pendant am y person, yn defnyddio'r manylion hynny i edrych ar y gofrestr ei hun. Nid oes modd darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol o'r gofrestr ond ar ffurf tystysgrif. Mae'r tâl am y CHWILIAD CYFFREDINOL yn cynnwys edrych ar fanylion hyd at wyth person yn y cofrestri ond, os bydd angen edrych ar fwy, bydd tâl ychwanegol yn cael ei godi am bob tro arall y bydd raid edrych yn y gofrestr oni bai fod tystysgrif yn cael ei chyhoeddi o'r cofnod, pryd na fydd angen talu ond pris y dystysgrif. |
| Cymdeithas Hanes Teuluoedd Clwyd | Hafan | |
| Cymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd | Home (English) | |
| Cymdeithas Achyddol Maldwyn | Yn ôl |