Croeso i wefan GPM Gogledd Cymru, rhan o grŵp gwefannau Hanes Teuluol ac Achau UKBMD.

Mae'r Swyddfeydd Cofrestru yng Ngogledd Cymru'n dal cofnodion gwreiddiol genedigaethau, priodasau a marwolaethau yn ôl i ddechrau cofrestru gwladol yn 1837.

Mae Cymdeithasau Hanes Teuluol y rhanbarth yn cydweithio gyda'r Gwasanaethau Cofrestru lleol i weld bod modd chwilio'r mynegeion i'r cofnodion hyn ar y we.

Er nad yw'r mynegeion yn gyflawn eto ar gyfer pob blwyddyn ac ardal, gobeithiwn y bydd y gronfa ddata maes o law yn cynnwys holl enedigaethau, priodasau a marwolaethau a gofrestrwyd yng Ngogledd Cymru ers 1837.

Mae'r dewislenni ar frig y dudalen yn arwain at holl adrannau'r wefan hon. I ymweld â'r holl wefannau eraill sydd wrthi'n rhoi mynegeion gwreiddiol y cofrestryddion ar-lein, cliciwch ar logo UKBMD isod. Yn UKBMD gallwch hefyd wneud Chwiliad Aml-ranbarth trwy ddata amryw safleoedd GPM ar un cynnig os nad ydych yn sicr o ba ardal y daeth eich hynafiaid.

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu ymholiadau ynghylch y wefan hon, neu os ydych eisiau cysylltu â ni, cofiwch ymweld â'n Tudalen Cwestiynau Cyffredin.


Rhagor o wefannau GPM
Genedigaethau, Priodasau, Marwolaethau a Chyfrifiadau ar y We
Mae GPM Gogledd Cymru wedi bod yn gweithredu'n ddi-dor ers Mehefin 2003
Gwefannau Hanes Teuluol cysylltiedig
Cyfeiriaduron a Rhestri Achyddol ar y We

I gael clywed am holl ddiweddariadau i'r amrywiol wefannau GPM sy'n rhan o grŵp UKBMD, ymwelwch â gwefan UKBMD a chofrestru ar restr Gyhoeddiadau UKBMD.