GPM Gogledd Cymru

Lansiwyd gwefan GPM Gogledd Cymru ym Awst 2003, yn dilyn gwaith arloesol Cheshire BMD, ac mae'n dal yn ei dyddiau cynnar. Fodd bynnag, bu gwaith gan Gofrestryddion a gwirfoddolwyr selog Cymdeithasau Hanes Teuluoedd Clwyd a Gwynedd a Chymdeithas Achyddol Maldwyn eisoes ar y gweill ers peth amser. Mae'r gronfa ddata yn cael ei hymestyn fesul tipyn: Diweddaraf.

Yn y gorffennol, roedd y rhan fwyaf o ymholiadau am gopïau o dystysgrifau yn golygu bod y Cofrestryddion yn gorfod chwilio â llaw drwy hen fynegeion ysgrifenedig i fynd â nhw i'r cofrestri gwreiddiol. Erbyn hyn, mae'r mynegeion o 1837 i 1950 yn cael eu rhoi ar gael i haneswyr teulu ledled y byd ar fwy a mwy o wefannau. Mae rhestr o holl wefannau GPM i'w gweld yn UK BMD.

Gall ymchwilwyr ddefnyddio'r technegau chwilio hawdd eu trin ar y gwefannau hyn i ddod o hyd i'w hynafiaid, a chael cyfeirnodau i'w defnyddio gan y Cofrestryddion i ddarparu copïau o dystysgrifau genedigaeth, priodas a marwolaeth.

Os oes gennych unrhyw sylwadau ar y tudalennau hyn, neu eisiau gwybod mwy am ddechrau gwaith o'r fath ar gyfer eich ardal eich hun, cofiwch gysylltu â ni yn gwefeistr@northwalesbmd.org.uk.

Yn ôl i'r Hafan
Map Llywio'r Wefan

© 2003
Cymdeithas Hanes Teuluoedd Clwyd   Hafan
Cymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd   Home (English)
Cymdeithas Achyddol Maldwyn   Yn ôl