At ddibenion cofrestru Genedigaethau a Marwolaethau, rhannwyd Gogledd Cymru yn nifer o Isranbarthau Cofrestru, allai gwmpasu unrhyw beth o dref hyd at gasgliad o ddwsin o blwyfi gwledig efallai. Newidiodd ffiniau'r ardaloedd hyn yn aml dros y blynyddoedd ers 1837 ac, o ganlyniad, symudwyd llawer o gofnodion genedigaeth a marwolaeth rhwng swyddfeydd cofrestru.
Mae'r rhestr isod yn ceisio dangos y plwyfi neu lefydd ymhob isranbarth oedd mewn bodolaeth cyn 1950 er, gan fod ffiniau'r plwyfi eu hunain wedi newid yn sylweddol, canllawiau'n unig yw'r rhain.
Yn y rhestr hon, dim ond yr isranbarthau hynny sydd â data ar wefan GPM Gogledd Cymru sydd i'w gweld ar hyn o bryd. Caiff y rhestr ei diweddaru bob tro y bydd isranbarth "newydd" yn cael ei ychwanegu at y wefan.
Isranbarth Abergele
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Llanelwy (1837-1935).
Yn Rhanbarth Cofrestru Aled (1935-1968).
Abergele, Betws-yn-Rhos, Llanddulas, Llanfair Talhaearn, Llan Sain Siôr (Cegidog).
Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mwrdeistref Sirol Conwy (Swyddfa Llandudno).
Isranbarth y Bala
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru'r Bala (1837-1935).
Yn Rhanbarth Cofrestru Dwyrain Meirionnydd (1935 - 1950 +)
Llandderfel, Llanfor / Llanfawr, Llangower / Llangywer, Llanycil (gan gynnwys tref y Bala), Llanuwchllyn.
Erbyn hyn mae'r cofnodion yng Ngwynedd (Swyddfa'r Bala).
Isranbarth y Bermo
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Dolgellau (1837 - 1935).
Yn Rhanbarth Cofrestru De Meirionnydd (1935 - 1950 +)
Dolgellau, Llanaber (gan gynnwys tref y bermo), Llanddwywe, Llanelltyd, Llanenddwyn, Llanfachreth.
Erbyn hyn mae'r cofnodion yng Ngwynedd (Swyddfa Dolgellau).
Isranbarth Ceri
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru'r Drenewydd.
Plwyfi Ceri a Mochdre.Diddymwyd isranbarth Ceri yn 1923 a'i gyfuno ag isranbarth y Drenewydd.
Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mhowys (Y Drenewydd).
Isranbarth Corwen (2)
Crewyd 1 Hydref 1880.
Yn Rhanbarth Cofrestru Corwen (1880 - 1935).
Yn Rhanbarth Cofrestru Dwyrain Meirionnydd (1935 - 1939).
Betws Gwerful Goch, Cerrigydrudion, Corwen, Gwyddelwern, Llandrillo yn Edeirnion, Llanfihangel Glyn Myfyr, Llangar, Llangwm, Llansanffraid Glyndyfrdwy.
Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Rhanbarth De Sir Ddinbych (Rhuthun).
Isranbarth Cyffylliog
Crewyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Rhuthun (1837 - 1902)
Cyffylliog, Clocaenog a Nantglyn.Ar 1af Awst 1902, diddymwyd Isranbarth Cyffylliog.
Trosglwyddwyd Cyffylliog i Isranbarth Llanelidan.
Trosglwyddwyd Clocaenog i Isranbarth Rhuthun.
Trosglwyddwyd Nantglyn i Isranbarth Llanrhaeadr.
Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Rhanbarth De Sir Ddinbych (Rhuthun).
Isranbarth Chwitffordd
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Treffynnon (1837-1961).
Caerwys, Gwaunysgor, Llanasa, Trelawnyd, Chwitfordd.
Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Sir y Fflint (Yr Wyddgrug).
Isranbarth Darowen
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Machynlleth (1837-1917).
Plwyfi Llanbryn-mair, Cemais a Darowen.
Ar 1 Hydref 1917, unwyd isranbarth Darowen gydag is-ranbarth Machynlleth, gan alw'r isranbarth newydd yn isranbarth Machynlleth.
Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mhowys (Machynlleth).
Isranbarth Dinbych
Crewyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Llanelwy (1837 - 1935).
Dinbych, Henllan, Bylchau, Cefn Meiriadog, Llannefydd, Llansannan, Trefnant.Yn Rhanbarth Cofrestru Rhuthun (1935 - 1950+).
Dinbych, Nantglyn, Aberchwiler (Bodfari), Llandyrnog, Llanrhaeadr yng Nghinmeirch.
Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Rhanbarth De Sir Ddinbych (Rhuthun).
Isranbarth Y Drenewydd
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru'r Drenewydd.
Plwyfi'r Drenewydd a Llanllwchaearn.
Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mhowys (Y Drenewydd).
Isranbarth y Fflint
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Treffynnon (1837-1974).
Y Fflint, Cei Connah, Helygain, Llaneurgain, Rhosesmor / Caerfallwch, Sychdyn.
Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Sir y Fflint (Yr Wyddgrug).
Isranbarth Gwyddelwern
Crewyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Corwen (1837 - 1880).
Betws Gwerful Goch, Cerrigydrudion, Gwyddelwern, Llandrillo yn Edeirnion, Llanfihangel Glyn Myfyr, Llangar, Llangwm.Diddymwyd Isranbarth Gwyddelwern ar 30 Medi 1880.
Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Rhanbarth De Sir Ddinbych (Rhuthun).
Isranbarth Llanarmon yn Iâl
Crewyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Rhuthun (1837 - 1935).
Llanarmon (yn Iâl), Llandegla, Llanferres.Ar 1af Hydref 1935, cyfunwyd Isranbarth Llanarmon ag Isranbarth Rhuthun, a daeth i ben fel Isranbarth ar wahân.
Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Rhanbarth De Sir Ddinbych (Rhuthun).
Isranbarth Llandyrnog
Crewyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Rhuthun (1837 - 1935).
Llandyrnog, Llangwyfan, Llangynhafal; ynghyd â threfgordd Aberchwiler.Ar 1af Chwefror 1906, trosglwyddwyd Aberchwiler a rhannau o Landyrnog i Isranbarth Llanrhaeadr.
Ar 1af Hydref 1935, cyfunodd Isranbarth Llandyrnog ag Isranbarth Rhuthun, a daeth i ben fel Isranbarth ar wahân.
Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Rhanbarth De Sir Ddinbych (Rhuthun).
Isranbarth Llanelidan
Crewyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Rhuthun (1837 - 1935)
Llanelidan, Derwen, Llanfair Dyffryn Clwyd.Ar 1af Hydref 1935, cyfunodd Isranbarth Llanelidan ag Isranbarth Rhuthun, a daeth i ben fel Isranbarth ar wahân.
Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Rhanbarth De Sir Ddinbych (Rhuthun).
Isranbarth Llanelwy
Crewyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Llanelwy (1837 - 1950+).
Bodfari (rhan), Cwm, Y Ddiserth, Allt Melyd, Prestatyn, Rhuddlan, Y Rhyl, Llanelwy, Tremeirchion.Ar 1 Mehefin 1919, trosglwyddwyd rhannau o'r Rhyl, Rhuddlan, Allt Melyd a Phrestatyn i Isranbarth newydd y Rhyl.
Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Rhanbarth Gogledd Sir Ddinbych (Y Rhyl).
Isranbarth Llanfair Caereinion
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Llanfyllin.
Llanfair Caereinion, Llangyniew / Llangynyw, Llanerfyl, Llangadfan, Llanfihangel yng Ngwynfa, Garthbeibio.
Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mhowys (Swyddfa'r Trallwng).
Isranbarth Llanidloes Isaf
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru'r Drenewydd.
Plwyfi Trefeglwys a Llanidloes (rhan).Cyfunwyd isranbarthau Llanidloes Isaf ac Uchaf ym mis Ionawr 1896 ac enwyd yr isranbarth newydd yn Llanidloes.
Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mhowys (Y Drenewydd).
Isranbarth Llanidloes Uchaf
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru'r Drenewydd.
Plwyfi Llangurig a Llanidloes (rhan).Cyfunwyd isranbarthau Llanidloes Uchaf ac Isaf ym mis Ionawr 1896 ac enwyd yr isranbarth newydd yn Llanidloes.
Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mhowys (Y Drenewydd).
Isranbarth Llanidloes
Crëwyd y mis Ionawr 1896.
Yn Rhanbarth Cofrestru'r Drenewydd.
Cyfunwyd isranbarthau Llanidloes Uchaf ac Isaf ym mis Ionawr 1896 ac enwyd yr isranbarth newydd yn Llanidloes.
Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mhowys (Y Drenewydd).
Isranbarth Llanrhaeadr ym Mochnant
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Llanfyllin.
Llanarmon Mynydd Mawr, Llangadwaladr, Llangedwyn, Llanrhaeadr ym Mochnant, Hirnant, Llangynog, Llanwddyn, Pennant.
Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mhowys (Swyddfa'r Trallwng).
Isranbarth Llanrhaeadr yng Nghinmeirch
Crewyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Rhuthun (1837 - 1935).
Llanrhaeadr yng Nghinmeirch a Llanynys.Ar 1af Hydref 1935, cyfunodd Isranbarth Llanrhaeadr ag Isranbarth Rhuthun, a daeth i ben fel Isranbarth ar wahân.
Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Rhanbarth De Sir Ddinbych (Rhuthun).
Isranbarth Llanrwst
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Llanrwst (1837-1935).
Yn Rhanbarth Cofrestru Hiraethog (1935-1974).
Capel Garmon, Eglwysbach, Gwytherin, Llanddoged, Llangernyw, Llanrwst (heblaw trefgordd Gwedir), Maenan, Yr Abaty.
Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mwrdeistref Sirol Conwy (Swyddfa Llandudno).
Isranbarth Llansanffraid ym Mechain
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Llanfyllin.
Plwyfi Llandrinio, Llandysilio yn Neuddwr, Llanfechain, Llanfyllin, Llansanffraid ym Mechain a Meifod; ynghyd â threfgordd Carreghwfa ym mhlwyf Llanymynech.
Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mhowys (Swyddfa'r Trallwng).
Isranbarth Llanwnog
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru'r Drenewydd.
Plwyfi Llanwnog, Carno, Penystrywaid, Aberhafesb a Llandinam.Diddymwyd isranbarth Llanwnog yn 1935.
Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mhowys (Y Drenewydd).
Isranbarth Machynlleth
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Machynlleth (1837-1917).
Machynlleth a Phenegoes, ynghyd â threfgordd Ysgubor y Coed o blwyf cyfagos Llanfihangel Genau'r-Glyn yn Sir Aberteifi.Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mhowys (Machynlleth).
Ar 1 Ebrill 1904, tynnwyd plwyfi Penegoes ac Ysgubor y Coed o isranbarth Machynlleth a'u hychwanegu at isranbarthau Darowen a Thywyn yn ôl eu trefn.
Ar 1 Hydref 1917, cyfunwyd isranbarthau Machynlleth a Darowen, gan roi enw Machynlleth ar yr isranbarth newydd.
Isranbarth Malpas
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Wrecsam (1837 - 1853).
Plwyfi Bangor Is y Coed, Holt, Isycoed, Marchwiail, Threapwood a Gwyrddymp (i gyd yng Nghymru); a'r trefgorddau canlynol yn Sir Gaer: Shocklach Church, Shocklach Oviatt, Agden, Bradley, Chidlow, Chorlton, Cuddington, Malpas, Newton juxta Malpas, Oldcastle, Overton, Stockton, Wichough ac Wigland.
Ar 1 Ebrill 1853, ailenwyd isranbarth Malpas yn isranbarth Holt. Ar yr un pryd, trosglwyddwyd y trefgorddau yn Sir Gaer (heblaw Church Shocklach a Shocklach Oviatt) i Ranbarth Cofrestru Whitchurch (Sir Amwythig).
Arhosodd trefgorddau Church Shocklach a Shocklach Oviatt yn isranbarth Holt hyd 1896 pryd y cawsant eu trosglwyddo i Ranbarth Cofrestru Caer.
Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Wrecsam.
Isranbarth Meifod
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Llanfyllin.
Diddymwyd isranbarth Meifod yn 1841 a'i gyfuno ag isranbarth Llansanffraid ym Mechain.
Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mhowys (Swyddfa'r Trallwng).
Isranbarth Pennal / Towyn (Tywyn)
(Newidiwyd yr enw o Pennal i Towyn (Tywyn) rhwng 1878 a 1884).
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Machynlleth (1837 - 1935).
Yn Rhanbarth Cofrestru De Meirionnydd (1935 - 1950 +)
Llanwrin, Pennal, Tywyn (gan gynnwys tref Aberdyfi).Erbyn hyn mae'r cofnodion yng Ngwynedd (Swyddfa Dolgellau).
Ar 1 ebrill 1904, daeth plwyf sifil Llanwrin yn rhan o isranbarth Darowen; a symudwyd plwyf sifil Ysgubor y Coed o isranbarth Machynlleth i isranbarth Pennal / Tywyn.
Ar 1 mehefin 1924, symudwyd plwyfi sifil Pennal ac Ysgubor y Coed i isranbarth Machynlleth.
Isranbarth Penarlâg
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Great Boughton (1837-1870).
Yn Rhanbarth Cofrestru Caer (1871-1902).
Daeth yn Rhanbarth Cofrestru Penarlâg ar 1 Ionawr 1903.
1837-1853: Dodleston, Eaton, Eccleston, Penarlâg, Higher Kinnerton, Lower Kinnerton, Marlston-cum-Lache, Poulton, Pulford, Saltney.
1853-1870: Fel yr uchod, ynghyd â: Great Saughall, Little Saughall, Shotwick, Shotwick Park, Woodbank.
1871-1903: Penarlâg, Yr Hôb, Treuddyn, Merffordd a Hoseli.
Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Sir y Fflint (Yr Wyddgrug).
Isranbarth Rhiwabon
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Wrecsam.
Plwyfi Erbistog a Rhiwabon (gan gynnwys Acre-fair, Cefn Mawr, Johnstown, Pen-y-cae, Rhosllanerchrugog, Rhosymedre, Rhiwabon).
Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.
Isranbarth Rhuthun
Crewyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Rhuthun (1837 - 1950+).
Rhuthun, Efenechtid, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Llanfwrog, Llanrhudd, Llanhychan.Ar 1af Hydref 1935, dilewyd Isranbarthau Llanarmon yn Iâl, Llandyrnog, Llanelidan a Llanrhaeadr yng Nghinmeirch, a'u cyfuno ag Isranbarth Rhuthun.
Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Rhanbarth De Sir Ddinbych (Rhuthun).
Isranbarth y Rhyl
Crewyd 1 Mehefin 1919.
Yn Rhanbarth Cofrestru Llanelwy (1837 - 1950+).
Crewyd o rannau o'r Rhyl, Rhuddlan, Allt Melyd a Phrestatyn, oedd gynt yn Isranbarth Llanelwy.
Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Rhanbarth Gogledd Sir Ddinbych (Y Rhyl).
Isranbarth Talyllyn
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Dolgellau (1837 - 1935).
Yn Rhanbarth Cofrestru De Meirionnydd (1935 - 1950 +)
Llanegryn, Llangelynnin, Llanfihangel y Pennant, Llanymawddwy, Mallwyd, Talyllyn.Erbyn hyn mae'r cofnodion yng Ngwynedd (Swyddfa Dolgellau).
Isranbarth Trefaldwyn
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Trefaldwyn (1837-1870).
Yn Rhanbarth Cofrestru Ffordun (1870-1935).
Yn Rhanbarth Cofrestru'r Trallwng (1935- ).
Plwyfi Aberriw, Trefaldwyn, Llandysul, Llamyrewig, Mainstone (trefgordd Castlewright), Lydham (trefgordd Aston), Yr Ystog (rhan).
Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mhowys (Swyddfa'r Trallwng).
Isranbarth Treffynnon
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Treffynnon (1837-1974).
Treffynnon, Bagillt, Brynford, Gorsedd, Maesglas, Nannerch (gan gynnwys Penbedw), Rhesycae, Ysgeifiog.
Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Sir y Fflint (Yr Wyddgrug).
Isranbarth Tregynon
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru'r Drenewydd.
Plwyfi Betws Cedewain, Llanllugan, Llanwyddelan, Manafon a Thregynon.
Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mhowys (Y Drenewydd).
Isranbarth y Trallwng
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Trefaldwyn (1837-1870).
Yn Rhanbarth Cofrestru Ffordun (1870-1935).
Yn Rhanbarth Cofrestru'r Trallwng (1935- ).
Belan, Tal-y-bont, Castell Caereinion Drefol, Cledrwd, Frachus, Garreg Bank, Tre-wern, Llwynderw, Trewern, Y Trallwng, Brunant, Castell Caereinion Weldig, Trelystan, Treberfedd, Pentre, Ucheldre
Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mhowys (Swyddfa'r Trallwng).
Isranbarth Wrecsam
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Wrecsam.
Abenbury Fawr, Abenbury Fechan, Acton, Y Bers, Bieston, Borras Hwfa, Borras Riffri, Broughton, Esclus Uwch y Clawdd, Esclus Is y Clawdd, Erddig, Erlas, Gourton, Y Mwynglawdd, Stansty, Wrecsam yr Abad, Wrecsam y Brenin
Erbyn hyn mae'r cofnodion ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.
Isranbarth yr Wyddgrug
Crëwyd 1 Gorffennaf 1837.
Yn Rhanbarth Cofrestru Treffynnon (1837-1974).
Cilcain, Yr Wyddgrug, Croesesgob, Waunyrwyddfid, Coed-llai, Pontbleiddyn a Nercwys.Ar 1 Gorffennaf 1901, trosglwyddwyd Croesesgob i isranbarth Rhif 4 ("Penarlâg") Rhanbarth Cofrestru Caer.
Erbyn hyn mae'r cofnodion yn Sir y Fflint (Yr Wyddgrug)
| Cymdeithas Hanes Teuluoedd Clwyd | Hafan | |
| Cymdeithas Hanes Teuluoedd Gwynedd | Home (English) | |
| Cymdeithas Achyddol Maldwyn | Yn ôl |