Chwilio'r Mynegeion Marwolaethau
Darllenwch hwn gyntaf:
I Gael Copi o Dystysgrif Marwolaeth:
- Chwiliwch gan ddefnyddio naill ai Chwilio am Enw neu Rhestr Syml isod.
 
- Cliciwch ar y cyfeirnodau yn y canlyniadau ar gyfer pob cofnod sydd 
o ddiddordeb i chi. Bydd hyn yn ychwanegu'r cofnod at y Crynodeb.
- Trwy ailadrodd yr uchod ar gyfer unrhyw un o'r gwefannau GPM sydd yng nghasgliad UKBMD,
gallwch ychwanegu rhagor o gofnodion at eich Crynodeb.
 
- O'r Crynodeb gallwch benderfynu pa dystysgrifau yr ydych am eu harchebu.
    
    -  Mae'r cyfeirnodau ar y Crynodeb yn cysylltu â ffurflenni cais i'w hargraffu.
 
    - Os yw’r gwasanaeth ar gael, gallwch archebu tystysgrifau ar-lein trwy ddilyn y cyfarwyddiadau yn y Crynodeb.
 
    
 
- Bydd y cofnodion yn aros ar eich Crynodeb nes byddwch yn cau eich porwr.
 
- Fel arall, gallwch ychwanegu amryw gofnodion at y Crynodeb. Dewiswch amrediad o gofnodion trwy glicio ar y blychau yn y golofn dde, a chlicio wedyn ar y botwm Ychwanegu dewisiadau at y Crynodeb ar waelod y canlyniadau. Ni chewch ddewis mwy na 100 ar y tro.
 
 
- Cofiwch nodi cyfeiriad y Swyddfa Gofrestru sydd ar y ffurflen ac anfon pob cais
i'r Swyddfa Gofrestru iawn.
 
- Sylwch nad yw'r mynegeion ddim yn gyflawn eto ar gyfer pob blwyddyn a rhanbarth,
felly cofiwch edrych ar y dudalen cwmpas
i weld yn union beth sydd ar gael.
 
- Bydd yr oed pan fu'r unigolyn farw yn cael ei ddangos yn unig os oedd ar gael i ni.
 
- Mae argymhellion ar sut i chwilio yma.
 
Gallwch chwilio mewn dwy ffordd:
- Chwilio am Gyfenw: Chwilio am gofnodion cyfenw arbennig yn unig dros gyfnod penodol.
 
- Rhestr Syml: Dangos pob cofnod sydd â llythyren gyntaf y cyfenw dros gyfnod penodol.
 
 
Chwilio am Enw
- Dewiswch gyfnod o'r rhestr. 
Gallwch ddewis amryw flynyddoedd trwy ddal y bysell Control wrth glicio (dylai defnyddwyr Mac ddefnyddio bysell Shift)
(Dylai defnyddwyr Sgrin Gyffwrdd ddewis un flwyddyn ac yna sawl blwyddyn o bobtu)
 
- Dewiswch y rhanbarth(au) i'w chwilio. 
Gallwch ddewis mwy nag un rhanbarth trwy ddal y bysell Control wrth glicio (dylai defnyddwyr Mac ddefnyddio bysell Shift)
Os dewiswch un rhanbarth yn unig, bydd rhestr newydd yn ymddangos fydd
yn gadael i chi ddewis isranbarth o fewn y rhanbarth.
 
- Dewiswch gael y canlyniadau yn nhrefn yr wyddor neu yn ôl cyfeirnod.
 
- Rhowch gyfenw
 
- 
Gallwch ddewis rhoi enwau blaen; neu ran gyntaf enwau blaen lluosog, neu lythrennau blaen os gwyddoch beth ydynt. 
Fe welwch ragor o eglurhad ac enghreifftiau ar dudalen yr Argymhellion.
 
- Gallwch ddewis rhoi oed pan fu farw (1 i 3 digid) neu flwyddyn geni (4 digid)
a dewis faint o flynyddoedd bob ochr i'w cynnwys yn y chwilio.
 
- Dewiswch os yw'r chwilio i fod am yr union sillafiad, neu a ydych am chwilio am
enwau sy'n swnio'n debyg i'r cyfenw hefyd.
 
- Dewiswch gael y canlyniadau ar y sgrîn neu wedi eu cadw mewn ffeil y gallwch
ei llwytho i mewn i daenlen.
 
- Pwyswch y botwm Dangos y Canlyniadau
 
Rhestr Syml.
- Dewiswch gyfnod o'r rhestr. 
Gallwch ddewis amryw flynyddoedd trwy ddal y bysell Control wrth glicio (dylai defnyddwyr Mac ddefnyddio bysell Shift)
(Dylai defnyddwyr Sgrin Gyffwrdd ddewis un flwyddyn ac yna sawl blwyddyn o bobtu)
 
- Dewiswch y rhanbarth(au) i'w chwilio. 
Gallwch ddewis mwy nag un rhanbarth trwy ddal
y bysell Control wrth glicio (dylai defnyddwyr Mac ddefnyddio bysell Shift)
 
- Dewiswch gael y canlyniadau yn nhrefn yr wyddor neu yn ôl
cyfeirnod.
 
- Dewiswch gael y canlyniadau ar y sgrîn neu wedi eu cadw mewn ffeil y gallwch
ei darllen i mewn i daenlen.
 
- Dewiswch lythyren gyntaf y cyfenw.
 
- Pwyswch y botwm Dangos y Mynegeion